La bohème

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
La bohème
Opera gan Giacomo Puccini
La Boheme poster by Hohenstein.PNG
Poster perfformiad cyntaf 1896 gan Adolfo Hohenstein
Libretydd
Iaith Eidaleg
Seiliedig ar Henri Murger's Scènes de la vie de bohème
Premiere 1 Chwefror 1896 (1896-02-01)
Teatro Regio, Torino

Mae La bohème yn opera a gyfansoddwyd gan Giacomo Puccini ym 1896 gyda libreto Eidaleg gan Luigi Illica a Giuseppe Giacosa. Wedi ei seilio ar lyfr Henri Murger, Scènes de la vie de bohème, mae'r opera yn adrodd hanes criw o fohemiaid syn byw yn chwarter Lladin Paris yn y 1830au.[1]

Perfformiad cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Perfformiwyd La bohème am y tro cyntaf yn Teatro Regio, Torino, ar 1 Chwefror 1896 o dan arweiniad Arturo Toscanini. Yn y perfformiad cyntaf chwaraeodd Evan Georgea rhan Rodolfo, Cesira Ferrani rhan Mimì, Tieste Wilmant rhan Marcello a Camilla Pasini rhan Musetta

Ym 1946, hanner can mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf, arweiniodd Toscanini berfformiad dathlu ohono ar y radio gyda Cherddorfa Symffoni NBC. Cafodd recordiad o'r perfformiad ei ryddhau gan RCA Victor. Dyma'r unig recordiad a wnaed erioed o opera Puccini gan ei arweinydd gwreiddiol

Cymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymeriad Llais
Rodolfo, Bardd tenor
Mimì, Gwniadwraig soprano
Marcello, Arlunydd bariton
Musetta, Cantores soprano
Schaunard, Cerddor bariton
Colline, Athronydd Baswr
Benoît, eu landlord Baswr
Alcindoro, Gwleidydd Baswr
Parpignol, Gwerthwr teganau tenor
Rhingyll tollau Baswr
myfyriwr, puteiniaid, pobl y ddinas, siopwyr, gwerthwyr pen stryd, milwyr, gweinyddion, plant

Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad: Paris

Amseriad: tua 1830[2]

Act 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Noswyl y Nadolig yn y groglofft lle mae'r pedwar bohemiad yn fyw.[3]

Darlun o'r groglofft gan Reginald Gray

Mae Marcello yn peintio tra bod Rodolfo yn edrych allan o'r ffenestr. Maent yn cwyno am yr oerfel. Er mwyn cadw'n gynnes, maent yn llosgi llawysgrif drama Rodolfo. Mae Colline, yr athronydd, yn cyrraedd yn crynu dan oerfel ac yn cwyno bod hi di methu gwerthu ei llyfrau i'r siop wystlo. Mae Schaunard, cerddor y grŵp, yn cyrraedd gyda bwyd, gwin a sigâr. Mae'n esbonio ffynhonnell ei gyfoeth: swydd gyda bonheddwr ecsentrig o Sais, a orchmynnodd iddo chwarae ei ffidil i barot nes bo'r parot yn farw. Prin fod ei gyfeillion yn gwrando ar ei stori wrth iddynt osod y bwrdd i fwyta ac yfed. Mae Schaunard yn ymyrryd, gan ddweud wrthyn nhw i gadw'r bwyd am ddiwrnod arall: heno byddant i gyd yn dathlu ei ffortiwn dda trwy fwyta yn Cafe Momus, a bydd ef yn talu.

Mae Benoît, y landlord, sy'n cyrraedd i gasglu'r rhent yn amharu ar y ffrindiau. Maent yn ei wenieithi ac yn rhoi gwin iddo. Yn ei ddiod, mae'n dechrau brolio am ei anturiaethau cariadus, ond pan fydd hefyd yn datgelu ei fod yn briod, maent yn ei daflu allan o'r ystafell, mewn ffug dicter at ei ymddygiad anfoesol, heb dalu'r rhent. Mae'r arian rhent yn cael ei rannu rhwng y cyfeillion ar gyfer eu noson allan yn y Chwarter Lladin.

Mae Marcello, Schaunard a Colline yn mynd allan, ond mae Rodolfo yn aros ar ei ben ei hun am eiliad er mwyn gorffen erthygl mae'n ysgrifennu, gan addo ymuno â'i ffrindiau yn fuan. Mae rhywun yn curo'r drws. Merch sy'n byw mewn ystafell arall yn yr adeilad sydd yno. Mae ei channwyll wedi diffodd, ac nid oes ganddi fatsien i'w ail danio; mae'n gofyn i Rodolfo am dân. Mae hi'n llesmair, ac mae Rodolfo yn ei helpu i gadair ac yn cynnig gwydraid o win iddi. Mae hi'n mynegi ei diolchgarwch am ffeindrwydd Rodolfo ac yn troi am ei ystafell ei hun. Wrth iddi ymadael mae'n sylwi ei bod hi wedi colli ei allwedd drws.

Mae cannwyll y ferch yn diffodd eto yn y drafft ac mae cannwyll Rodolfo yn diffodd hefyd; mae'r ddau yn troi yn y tywyllwch. Mae Rodolfo, yn awyddus i dreulio amser gyda'r ferch, y mae eisoes wedi'i ddenu ati, yn darganfod yr allwedd ac yn ei guddio yn ei boced. Mae'n cymryd ei llaw oer (Che gelida manina- "O! Am law fach oer") ac yn dweud wrthi am ei fywyd fel bardd, yna mae'n gofyn iddi ddweud mwy wrtho am ei bywyd hi. Mae'r merch yn ddweud mai Mimì yw ei henw (Sì, mi chiamano Mimì- "Ie! Rwy'n cael fy ngalw'n Mimì" ), ac mae'n disgrifio ei bywyd syml fel gwniadwraig. Wedi colli amynedd, mae'r ffrindiau yn galw Rodolfo. Mae'n ateb ac yn troi i weld Mimì wedi'i golchi mewn golau lleuad (deuawd, Rodolfo a Mimì: O soave fanciulla- "O ferch hyfryd"). Maent yn sylweddoli eu bod wedi syrthio mewn cariad. Mae Rodolfo yn awgrymu aros gartref yng nghwmni ei gilydd, ond mae Mimì yn awgrymu ei bod hi'n mynd efo fo i Gaffi Momus. Wrth iddynt fynd am y caffi maent yn canu am eu cariad newydd.

Act 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Y Chwarter Lladin (yr un noson)[4]

Tu allan i Gaffi Momus - Lyric Opera of Kansas City

Mae tyrfa fawr, gan gynnwys plant, wedi casglu gyda gwerthwyr stryd yn bloeddio rhinweddau eu nwyddau (corws: Aranci, datteri! Caldi i marroni! - "Orenau! Datys! Castanau poeth!"). Mae'r ffrindiau'n cyrraedd. Mae Rodolfo yn prynu boned i Mimì gan werthwr, tra bod Colline yn prynu côt a Schaunard yn prynu corn. Mae pobl Paris yn hel clecs gyda'u ffrindiau ac yn ceisio bargen gan y gwerthwyr; mae plant y strydoedd yn heidio i weld nwyddau Parpignol, y gwerthwr teganau. Mae'r ffrindiau yn mynd i'r Cafe Momus.

Wrth i'r dynion a Mimì ciniawa yn y caffi, mae Musetta, cyn cariad Marcello, yn cyrraedd gyda'i chariad newydd, Alcindoro . Mae Alcindoro yn hen wleidydd cyfoethog . Mae'n amlwg bod Musetta wedi blino efo cwmnïaeth Alcindoro. I fawr foddhad pobl gyffredin Paris ond o fawr embaras i'w noddwr mae Musetta yn canu cân risqué (Musetta: Quando m'en vo '- "Pan fyddaf yn mynd ymlaen"), gan obeithio ail dynnu sylw Marcello. Mae'r tric yn gweithio; ac mae Mimì yn sylwi bod wir gariad yn bodoli rhwng Musetta â Marcello. Er mwyn cael gwared ar Alcindoro am ychydig, mae Musetta yn honni ei fod ei esgid yn gwasgu ac yn ei anfon at y crydd i gael trwsio ei esgidiau. Mae Alcindoro yn gadael, ac mae Musetta a Marcello yn syrthio'n nwydus i freichiau ei gilydd.[5]

Cyflwynir y bil i'r ffrindiau. Fodd bynnag, mae pwrs Schaunard wedi mynd ar goll ac nid oes gan neb arall ddigon o arian i dalu'r. Mae Musetta yn dweud wrth y gweinydd bydd Alcindoro yn talu. Clywir sain band milwrol, ac mae'r ffrindiau'n gadael i'w dilyn. Mae Alcindoro yn dychwelyd gyda'r esgid wedi ei thrwsio gan chwilio am Musetta. Mae'r gweinydd yn rhoi'r bil iddo ac, mewn sioc am ei faint, mae Alcindoro yn suddo i mewn i gadair.

Act 3[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Wrth dollborth mynediad i'r ddinas (diwedd Chwefror)[6]

chwith Ailyn Pérez (Mimì) ac Arturo Chacón-Cruz (Rodolfo) yn Act III gan Florida Grand Opera 2012

Mae Pedleriaid yn mynd drwy'r rhwystrau ac yn mynd i'r ddinas. Mae Mimì yn ymddangos, yn llawn peswch blin. Mae'n ceisio dod o hyd i Marcello, sydd, ar hyn o bryd, yn byw mewn tafarn lle mae'n paentio arwyddion ar gyfer y tafarnwr. Mae hi'n dweud wrtho am ei bywyd caled gyda Rodolfo, a oedd wedi gadael hi'r noson cynt ac o'i eiddigedd ofnadwy. (O buon Marcello, aiuto! - "O, Marcello da, fy helpu!"). Mae Marcello yn dweud wrthi fod Rodolfo yn cysgu yn y dafarn Mae Marcello hefyd yn mynegi pryder am beswch Mimì. Mae Rodolfo yn deffro ac yn dod allan gan chwilio am Marcello. Mae Mimì yn cuddio. Mae hi'n cipglywed Rodolfo yn dweud wrth Marcello ei fod wedi gadael Mimì oherwydd ei bod hi'n goegen. Wedyn mae'n cyfaddef bod ei eiddigedd yn ffug: mae'n ofni bod Mimì yn cael ei fwyta'n araf gan salwch marwol (y diciâu mae'n debyg). Ni all Rodolfo wneud llawer i helpu Mimì, ac roedd yn gobeithio y byddai'n cael hyd i ŵr mwy goludog gallasai talu am driniaeth iddi pe bai o'n gadael. (Marcello, finalmente - "Marcello, yn olaf").

O garedigrwydd tuag at Mimì, mae Marcello yn ceisio tawelu Rodolfo, ond mae hi eisoes wedi clywed popeth. Mae ei llefain a'i pheswch yn datgelu ei phresenoldeb, ac mae Rodolfo yn prysuro ati. Clywir chwerthin Musetta ac mae Marcello yn ymadael i ddarganfod beth sydd yn ei achosi. Mae Mimì yn dweud wrth Rodolfo ei bod hi am ei adael, ac yn gofyn eu bod yn gwahanu yn gyfeillgar (Mimì: Donde lieta uscì- "O'r fan hyn gadawodd yn hapus"). Ond mae eu cariad at ei gilydd yn rhy gryf i'r pâr rannu. Fel cyfaddawd, maent yn cytuno i aros gyda'i gilydd tan y gwanwyn, pan fydd y byd yn dod yn fyw eto ac nad oes neb yn teimlo'n wirioneddol ar ei ben ei hun. Yn y cyfamser, mae Marcello wedi dod o hyd i Musetta, ac mae'r cwpl yn dadlau am fflyrtian Musetta, sydd yn gwrthgyferbynni i gymod y pâr arall (pedwarawd: Mimì, Rodolfo, Musetta, Marcello: Addio dolce svegliare alla mattina! "" Hwyl fawr, deffro melys yn y bore ! ").[7]

Act 4[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Yn ôl yn y groglofft, nifer o fisoedd yn ddiweddarach.[8]

Mae Marcello a Rodolfo yn ceisio gweithio, er eu bod yn bennaf yn siarad am eu cyn cariadon, sydd wedi eu gadael ac yn wedi dod o hyd i gariadon cyfoethog newydd. Mae Rodolfo wedi gweld Musetta mewn cerbyd ysblennydd ac mae Marcello wedi gweld Mimì wedi gwisgo fel brenhines. Mae'r dynion yn hiraethu am y dyddiau a fu (deuawd: O Mimì, tu più non torni- "O Mimì, a wnei di ddychwelyd?"). Mae Schaunard a Colline yn cyrraedd gyda chinio tlodaidd iawn ac mae pawb yn creu parodi o fwyta gwledd fawr, yn dawnsio gyda'i gilydd ac yn canu.

Mae Musetta yn ymddangos gyda Mimì. Wedi gadael Rodolfo bu Mimì yn canlyn gydag Arglwydd cyfoethog, ond bellach mae'r berthynas yna wedi dod i ben. Gwelodd Musetta Mimì yn y stryd yn gynharach yn y dydd yn ofnadwy o wan oherwydd ei hiechyd. Mae Mimì, gwelw ac mewn poen, yn cael ei chynorthwyo tag at y gwely. Am ychydig bach o amser, mae hi'n teimlo fel pe bai'n gwella. Mae Musetta a Marcello yn gadael i werthu clustdlysau Musetta er mwyn prynu meddygaeth, ac mae Colline yn gadael i werthu ei gôt (Vecchia zimarra- "Hen gôt"). Mae Schaunard a Colline yn ymadael er mwyn i Mimì a Rodolfo cael rhywfaint o amser gyda'i gilydd. Mae Mimì yn dweud wrth Rodolfo mai ei gariad yw ei bywyd cyfan (Aria / deuawd, Mimì a Rodolfo: Sono andati? - "Ydynt wedi mynd?").

Marwolaeth Mimì - Metropolitan Opera 2014

Er mawr foddhad i Mimì, mae Rodolfo yn cyflwyno iddi'r boned pinc a brynodd ar y diwrnod bu iddynt gwrdd am y tro cyntaf, ac mae wedi cadw i gofio eu cariad. Maent yn cofio hapusrwydd y gorffennol a'u cyfarfod cyntaf - y canhwyllau, yr allwedd a gollwyd. Yn sydyn, mae Mimì yn cael ei llethu gan beswch mawr. Mae'r gweddill yn dychwelyd, gydag anrheg o fwff i gynhesu dwylo Mimì a rhywfaint o feddyginiaeth. Mae Mimì yn grediniol y bydd y ffisig a'r gwres yn ei helpu i wella ac mae hi'n syrthio i gysgu. Mae Musetta yn gweddïo. Mae Schaunard yn darganfod bod Mimì wedi marw. Mae Rodolfo yn rhuthro i'r gwely, gan alw enw Mimì mewn dirboen, gan wylofain yn ddiymadferth wrth i'r llenni cau.

Detholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

La bohème - Disgyddiaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]