Licia Albanese
Licia Albanese | |
---|---|
![]() Albanese fel Cio-Cio-San ym Madama Butterfly gan Puccini | |
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1909, 23 Gorffennaf 1909 ![]() Torre a Mare ![]() |
Bu farw | 15 Awst 2014 ![]() o clefyd ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Galwedigaeth | canwr opera ![]() |
Arddull | opera ![]() |
Math o lais | soprano ![]() |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Medaliwn Handel, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Soprano operatig o'r Unol Daleithiau a aned yn yr Eidal oedd Licia Albanese (22 Gorffennaf 1909[1] - 15 Awst 2014). Roedd hi'n nodedig am ei phortreadau o arwresau telynegol Verdi a Puccini. Roedd Albanese yn artist blaenllaw gyda'r Opera Metropolitan rhwng 1940 a 1966. Gwnaeth lawer o recordiadau hefyd[2] ac roedd yn gadeirydd yr elusen The Licia Albanese-Puccini Foundation, sy'n gweithio i gynorthwyo artistiaid a chantorion ifanc.
Bywyd a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Felicia Albanese ym 1909 yn Torre Pelosa, (rhanbarth o Noicattaro, yr Eidal), a daeth wedyn yn rhan o Bari (prif dref rhanbarth Apulia ).[3][4] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf answyddogol ym Milan ym 1934, pan lenwodd i mewn dros soprano arall ym Madama Butterfly gan Puccini, y rôl y byddai'n cael ei chofio'n bennaf amdano. Dros 40 mlynedd, canodd fwy na 300 o berfformiadau o Cio-Cio-San. Cafodd ei chanmol am lawer o'i rolau, gan gynnwys Mimì (La bohème gan Giacomo Puccini), Violetta (La traviata gan Giuseppe Verdi) Liù (Turandot gan Giacomo Puccini) a rôl y teitl yn Manon Lescaut (hefyd gan Puccini). Er hynny ei phortread o'r geisha sydd wedi parhau i fod yn fwyaf adnabyddus. Dechreuodd ei chysylltiad â'r gwaith hwnnw yn gynnar gyda'i hathro, Giuseppina Baldassare-Tedeschi, cyfoeswr i'r cyfansoddwr, ac esboniwr pwysig o rôl y teitl yn y genhedlaeth flaenorol.
Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pryd y gwnaeth ei ymddangosiad ffurfiol cyntaf. Roedd naill ai yn yr un flwyddyn (1934) yn y Teatro Municipale yn Bari, yn canu yn La bohème, neu yn Parma, neu ym Milan ym 1935 yn Madama Butterfly. Erbyn diwedd y flwyddyn honno, roedd hi wedi canu yn La Scala fel Lauretta yn Gianni Schicchi. Buan iawn bu iddi lwyddiant mawr ledled y byd, yn enwedig am ei pherfformiadau yn Carmen, L'amico Fritz a Madama Butterfly yn yr Eidal, Ffrainc a Lloegr.
Gwnaeth Albanese ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan ar 9 Chwefror, 1940, yn y cyntaf o 72 perfformiad fel Madama Butterfly yn Hen Dŷ'r Opera Metropolitan. Gan fod plot Madama Butterfly yn ymwneud â pherthynas swyddog ym myddin yr Unol Daleithiau â merch o Japan gwaharddwyd perfformio'r gwaith yn y wlad wedi ymosodiad Pearl Harbor ar 7 Rhagfyr, 1941 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Er hynny roedd llwyddiant Albanese yn y rôl yn achos iddi berfformio yn y Met am 26 tymor, gan berfformio cyfanswm o 427 perfformiad o 17 rôl mewn 16 opera. Gadawodd y cwmni ym 1966 mewn anghydfod gyda'r Rheolwr Cyffredinol Syr Rudolf Bing, heb ffarwel fawr. Ar ôl perfformio mewn pedwar cynhyrchiad yn ystod 1965/66, roedd hi wedi'i hamserlennu ar gyfer un perfformiad yn unig y tymor nesaf. Dychwelodd ei chontract heb ei arwyddo.
Gwahoddodd Arturo Toscanini Albanese i ymuno â’i ddarllediadau o berfformiadau cyngerdd o La bohème a La traviata gyda Cherddorfa Symffoni NBC yn Stiwdio 8H NBC ym 1946. Cyhoeddwyd y ddau berfformiad yn ddiweddarach ar LP a CD gan RCA Victor.[5]
Ym 1959, canodd Albanese i filoedd o wrandawyr radio mewn cydweithrediad ag Alfredo Antonini, Richard Tucker ac aelodau Ffilharmonig Efrog Newydd yn ystod y darllediadau poblogaidd "Noson Eidalaidd" o Stadiwm Lewisohn yn Ninas Efrog Newydd. Cafodd hi a'i chydweithwyr eu harddangos mewn detholiadau o operâu gan Giacomo Puccini gan gynnwys: Tosca, La bohème, Turandot, Manon Lescaut a Madama Butterfly.[6]
Roedd hi hefyd yn un o brif berfformwyr Opera San Francisco lle bu’n canu rhwng 1941 a 1961, gan berfformio 22 rôl mewn 120 o berfformiadau dros 20 tymor, gan aros yn rhannol oherwydd ei hedmygedd o’i chyfarwyddwr, Gaetano Merola. Trwy gydol ei gyrfa, parhaodd i berfformio'n eang mewn datganiad, cyngerdd ac opera, fe'i clywyd ledled y wlad; cymerodd ran mewn cyngherddau budd, cyngherddau difyrru milwyr, cafodd ei sioe radio wythnosol ei hun, roedd yn westai ar ddarllediadau a thelediadau eraill, ac yn recordio'n aml.
Aeth Albanese i San Francisco yn ystod haf 1972 ar gyfer y cyngerdd gala arbennig yn y Sigmund Stern Recreation Grove i ddathlu hanner canmlwyddiant Opera San Francisco. Gan ymuno â nifer o gydweithwyr a oedd wedi canu gyda’r cwmni, canodd Albanese y ddeuawd o Madama Butterfly gyda’r tenor Frederick Jagel, yng nghwmni Cerddorfa Opera San Francisco dan arweiniad y cyfarwyddwr Kurt Herbert Adler.
Hyd yn oed ar ôl gyrfa yn ymestyn dros saith degawd, parhaodd Albanese i berfformio'n achlysurol. Ar ôl clywed hi'n canu anthem genedlaethol UDA yn ystod agoriad yn y Met, rhoddodd Stephen Sondheim a Thomas Z. Shepard rôl y diva opereta Heidi Schiller yn y sioe gerdd Follies yn yr Avery Fisher Hall ym 1985. Yn ystod tymor gwanwyn 1987 y Theatre Under the Stars yn Houston, Texas, serenodd Albanese mewn adfywiad llwyfan o Follies, a oedd yn llwyddiant mawr.
Bu farw Albanese ar 15 Awst, 2014, yn 105 oed yn ei chartref ym Manhattan.[7]
Recordiadau
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Albanese yn y telediad byw cyntaf un o Otello gan Verdi yr Opera Metropolitan, gyferbyn â Ramón Vinay a Leonard Warren, dan arweiniad Fritz Busch. Roedd yn un o'r genhedlaeth gyntaf o gantorion opera i ymddangos yn eang mewn recordiadau ac ar y radio, mae ei pherfformiadau, sydd bellach yn ailymddangos ar gryno ddisg a DVD, yn tystio yn barhaol i'w galluoedd.
Roedd Albanese yn recordio yn bennaf ar gyfer RCA Victor. Ymhlith ei recordiadau mae Carmen Bizet o dan gyfarwyddyd Fritz Reiner, gyda Risë Stevens a Jan Peerce (1951) a Manon Lescaut gan Puccini gyda Jussi Björling a Robert Merrill, dan arweiniad Jonel Perlea (1954). Ar gyfer recordiad 1951 a arweiniwyd gan Leopold Stokowski o olygfa llythyr Tatiana yn Eugene Onegin gan Tchaikovsky, rhan nad oedd hi erioed wedi ei chanu o'r blaen, dysgodd Rwsieg yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Daeth Albanese yn ddinesydd yr Unol Daleithiau ym 1945. Ar Hydref 5, 1995, cyflwynodd yr Arlywydd Bill Clinton Fedal Anrhydedd Genedlaethol y Celfyddydau iddi.
Derbyniodd wobrau a graddau er anrhydedd gan Goleg Marymount Manhattan, Coleg Athrawon Talaith Montclair, Coleg Sant Pedr, New Jersey, Prifysgol Seton Hall, Prifysgol De Florida, Prifysgol Fairfield, Coleg Siena, Coleg Caldwell, a Phrifysgol Fairleigh Dickinson.
Dyfarnwyd iddi Fedal Handel, yr anrhydedd swyddogol uchaf a roddir gan Ddinas Efrog Newydd i unigolion am eu cyfraniadau i fywyd diwylliannol y ddinas, gan Rudolph Giuliani yn 2000.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae ei deiseb dros naturoli'r UD yn nodi Gorffennaf 22; Ysgrif goffa 'The New York Times' '' (M. Fox) Gorffennaf 23; mae rhai eraill yn nodi Gorffennaf 24
- ↑ (2012). Albanese, Licia. yn Kennedy, J., Kennedy, M., & Rutherford-Johnson, T. (Gol.), The Oxford Dictionary of Music. : Oxford University Press. adalwyd drwy fynediad llyfrgelloedd cyhoeddus 26 Chwefror 2021
- ↑ Petition for Naturalization: Licia Albanese Gimma
- ↑ Am flynyddoedd cyn ei marwolaeth bu nifer o ffynonellau yn rhoi 1913 fel blwyddyn ei geni er enghraifft -Licia Albanese obituary by Alan Blyth, The Guardian, 19 August 2014
- ↑ Bernheimer, M. (2008). Albanese, Licia. In The Grove Book of Opera Singers. : Oxford University Press. adalwyd drwy fynediad llyfrgelloedd cyhoeddus 26 Chwefror 2021
- ↑ Licia Albanese, Alfredo Antonini, Richard Tucker, performing at Lewisohn Stadium on wqxr.org
- ↑ "Licia Albanese, Exalted Soprano, Is Dead at 105" by Margalit Fox, The New York Times, August 16, 2014
- ↑ Mayor Giuliani presents Handel Medallion to Licia Albanese and Roberta Peters (press release), November 20, 2000