Manhattan
![]() | |
Math |
bwrdeistref Dinas Efrog Newydd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Ynys Manhattan ![]() |
| |
Poblogaeth |
1,626,159 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Gale Brewer ![]() |
Cylchfa amser |
Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Dinas Efrog Newydd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
33.58 mi², 87 km² ![]() |
Uwch y môr |
85 metr ![]() |
Gerllaw |
East River, Afon Hudson, Upper New York Bay, Harlem River, Spuyten Duyvil Creek ![]() |
Yn ffinio gyda |
Y Bronx, Queens, Brooklyn, Weehawken, Ynys Staten, Hoboken, Dinas Jersey, Guttenberg, Edgewater, Fort Lee, North Bergen ![]() |
Cyfesurynnau |
40.7283°N 73.9942°W ![]() |
Cod post |
10000–10399 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Gale Brewer ![]() |
![]() | |
Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd yw Manhattan. Gyda phoblogaeth o fwy na 1.6 miliwn yn byw mewn ardal o 59 cilometr sgwâr, dyma'r ardal mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau gyda mwy na 27,000 o drigolion i bob cilometr sgwâr. Manhattan yw'r sir fwyaf cyfoethog yn yr Unol Daleithiau, gyda incwm personol o dros $100,000 y pen yn 2005. Mae'r fwrdeistref yn cynnwys Ynys Manhattan, Ynys Roosevelt, Ynys Randalls, bron i un rhan o ddeg o Ynys Ellis, y rhan uwch y dwr i Ynys Liberty, sawl ynys llai a rhan fechan o'r prif dir Talaith Efrog Newydd gyferbyn a'r Bronx.
Mae Manhattan yn ganolfan fasnachol, ariannol a diwylliannol yr Unol Daleithiau a'r byd. Lleolir y rhan fwyaf o gwmnïau radio, teledu a chyfathrebu technolegol yr Unol Daleithiau yma, ynghyd â nifer o gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau. Mae gan Manhattan nifer o leoliadau byd enwog, atyniadau twristaidd, amgueddfeydd a phrifysgolion. Yma hefyd mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ym Manhattan mae ardal fusnes fwyaf yr Unol Daleithiau, ac yma mae Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd a NASDAQ. Yn ddi-os, dyma canol Dinas Efrog Newydd ac ardal metropolitaidd Efrog Newydd, a lleolir cynulliad y ddinas a'r canran fwyaf o waith, busnes a gweithgareddau hamdden.
Tarddia'r enw "Manhattan" o'r gair "Manna-hata", fel y cyfeirir ato yn llyfr log Robert Juet, swyddog ar long Henry Hudson, y Halve Maen (Hanner Lleuad) ym 1609. Dengys fap yn darlunio'r enw "Manahata" ddwywaith, ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol "Afon Mauritius" (a enwyd yn ddiweddarach yn Afon Hudson). Mae'r gair "Manhattan" wedi cael ei gyfieithu fel "ynys o sawl mynydd" o'r iaith Lepane.