Brooklyn
| Math | bwrdeistref Dinas Efrog Newydd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Breukelen |
| Poblogaeth | 2,736,074 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Antonio Reynoso |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas Efrog Newydd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 251 ±1 km² |
| Gerllaw | Bae Efrog Newydd Uchaf, Bae Efrog Newydd Isaf, Jamaica Bay, Afon y Dwyrain, Newtown Creek |
| Yn ffinio gyda | Queens, Ynys Staten, Manhattan, Bayonne, Jersey City |
| Cyfesurynnau | 40.6508°N 73.9497°W |
| Cod post | 11201, 11202, 11203, 11204, 11205, 11206, 11207, 11208, 11209, 11210, 11211, 11212, 11213, 11214, 11215, 11216, 11217, 11218, 11219, 11220, 11221, 11222, 11223, 11224, 11225, 11226, 11228, 11229, 11230, 11231, 11232, 11233, 11234, 11235, 11236, 11237, 11238, 11239, 11241, 11242, 11243, 11245, 11247, 11249, 11251, 11252, 11256 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | borough president |
| Pennaeth y Llywodraeth | Antonio Reynoso |
![]() | |
Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, wedi'i leoli i'r de-orllewin o Queens ar ymyl orllewinol Long Island ydy Brooklyn. Enwyd y fwrdeistref ar ôl y dref Iseldireg Breukelen). Yn dref annibynnol tan iddi gael ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898, Brooklyn ydy bwrdeistref fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.5 miliwn o drigolion. Hyhi yw'r ail fwrdeistref fwyaf o ran arwynebedd hefyd. Ers 1896, bu gan Brooklyn yr un ffiniau a Swydd Kings, sydd yn bellach yn sir fwyaf poblog Talaith Efrog Newydd a'r ail sir gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr Unol Daleithiau ar ôl Swydd Efrog Newydd (Manhattan).

I bob pwrpas ymarferol mae'r un endid â Kings County sy'n un o'r siroedd yn nhalaith Efrog Newydd.
Er ei fod yn rhan o Ddinas Efrog Newydd, mae gan Brooklyn ei ddiwylliant unigryw ei hun, yn ogystal â bywyd celfyddydol annibynnol a threftadaeth pensaernïol unigryw. Mae nifer o gymdogaethau Brooklyn yn lecynnau ethnig lle mae'r mwyafrif o'r trigolion yn perthyn i grŵpiau ethnig a diwylliannau penodol.
