Anzio
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Prifddinas | Anzio ![]() |
Poblogaeth | 52,381 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Bad Pyrmont, Heemstede, Brooklyn, Bwrdeistref Paphos ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Talaith Rhufain ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 43.65 km² ![]() |
Uwch y môr | 3 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Aprilia, Ardea, Nettuno ![]() |
Cyfesurynnau | 41.44722°N 12.62833°E ![]() |
Cod post | 00042 ![]() |
![]() | |
Tref arfordirol a chymuned (comune) yn rhanbarth Lazio, yr Eidal, yw Anzio. Fe'i lleolir yn nhalaith Dinas Fetropolitan Rhufain. Saif tua 51 km (32 milltir) i'r de o ddinas Rhufain. Mae'n adnabyddus am ei harbwr glan môr. Mae'n borthladd pysgota ac yn lanfa ar gyfer fferïau i Ynysoedd Ponza.
Mae gan y dref arwyddocâd hanesyddol mawr fel safle glaniad milwrol yn 1944 gan y Cynghreiriaid yn ystod Ymgyrch Eidalaidd yr Ail Ryfel Byd. Parhaodd Brwydr Anzio a ddilynodd o 22 Ionawr hyd 5 Mehefin 1944.