Stephen Sondheim
| Stephen Sondheim | |
|---|---|
| Ganwyd | Stephen Joshua Sondheim 22 Mawrth 1930 Manhattan |
| Bu farw | 26 Tachwedd 2021 Roxbury |
| Man preswyl | Hollywood, Dinas Efrog Newydd |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | dramodydd, cyfansoddwr caneuon, sgriptiwr, bardd, awdur geiriau, cerddor, cyfansoddwr, libretydd |
| Arddull | sioe gerdd |
| Gwobr/au | gwobr Johnny Mercer, Praemium Imperiale, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Edgar, Anrhydedd y Kennedy Center, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Hull-Warriner Award, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Gwobr Cylch y Beirniaid am Wasanaeth Nodedig i'r Celfyddydau, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Tony Award for Best Musical, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Original Score |
| Gwefan | http://sondheim.com |
Cyfansoddwr o'r Unol Daleithiau oedd Stephen Joshua Sondheim (22 Mawrth 1930 – 26 Tachwedd 2021)[1]. Roedd yn o'r ffigyrau pwysicaf ym myd theatr cerdd yr 20fed ganrif.
Fel cyfansoddwr cerddoriaeth a geiriau, roedd rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys A Funny Thing Happened on the Way to the Forum (1962), Company (1970), Follies (1971), A Little Night Music (1973), Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street (1979), Sunday in the Park with George (1984), ac Into the Woods (1987). Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer West Side Story (1957) a Gypsy (1959).
Enillodd naw Gwobr Tony (mwy nag unrhyw gyfansoddwr arall) a Gwobr Tony Arbennig am Gyfraniad Gydol Oes i'r Theatr, Gwobr yr Academi, wyth Gwobr Grammy, Gwobr Pulitzer a Gwobr Laurence Olivier. Fe'i disgrifiwyd fel "the greatest and perhaps best-known artist in the American musical theatre." Ef oedd llywydd Cymdeithas y Dramodwyr o 1973 tan 1981.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Cafodd Sondheim ei eni yn Ddinas Efrog Newydd, yn fab i Etta Janet ("Foxy"; née Fox; 1897–1992) a Herbert Sondheim (1895–1966). Gadawodd Herbert ei wraig am fenyw arall. Doedd Stephen ddim yn hoffi ei fam o gwbl.[2] Cafodd ei addysg yn yr Academi Filwrol Efrog Newydd, Ysgol George ym Mhennsylvania, a Choleg Williams.[3]
Roedd Sondheim yn hoyw. Priododd Jeffrey Scott Romley yn 2017. Bu farw Sondheim gartref yn Roxbury, Connecticut, yn 91 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stephen Sondheim, Titan of the American Musical, Is Dead at 91 , The New York Times, 26 Tachwedd 2021.
- ↑ "Secrest book". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-28. Cyrchwyd 2021-11-27.
- ↑ "A Stephen Sondheim Timeline". John F. Kennedy Center for the Performing Arts. Cyrchwyd May 26, 2021.