Gwobr Pulitzer
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Gwobr Americanaidd a roddir am lwyddiannau ym myd newyddiaduraeth papur newydd ac arlein, llenyddiaeth a chyfansoddiadau cerddorol ydy'r Wobr Pulitzer. Cafodd ei sefydlu gan y cyhoeddwr Iddewig-Americanaidd Joseph Pulitzer a chaiff ei weinyddu gan Brifysgol Columbia yn Ninas Efrog Newydd.
Dyfernir gwobrau mewn un ar hugain o gategorïau. Mewn ugain o'r rhai hyn, derbynia'r enillydd dystysgrif a gwobr ariannol o $10,000.[1] Rhoddir medal aur i enillydd y categori gwasanaeth cyhoeddus, a roddir i bapur newydd bob tro, er gellir enwi'r unigolyn pan yn gwobrwyo.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Ateb i FAQ 14, o wefan Pulitzer