Neidio i'r cynnwys

Madama Butterfly

Oddi ar Wicipedia
Madama Butterfly
Delwedd:Leopoldo Metlicovitz, 1904 - Madama Butterfly.jpg, Collina presso Nagasaki, bozzetto di Alexandre Bailly, Marcel Jambon per Madama Butterfly (1906) - Archivio Storico Ricordi ICON000079.jpg
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolMadama Butterfly Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi15 Chwefror 1904 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu27 Rhagfyr 1903 Edit this on Wikidata
Genreopera, tragedy Edit this on Wikidata
CymeriadauCio-Cio-san (Madama Butterfly), B.F. Pinkerton, Kate Pinkerton, Sharpless, The Bonze, Yakuside, The Imperial Commissioner, The Official Registrar, Cio-Cio-san's mother, The aunt, The cousin, Suzuki, Goro, Prince Yamadori, Dolore ("Sorrow"), Q63677476 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysUn bel dì, vedremo Edit this on Wikidata
LibretyddLuigi Illica, Giuseppe Giacosa Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afLa Scala Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af17 Chwefror 1904 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolMadama Butterfly Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithNagasaki Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiacomo Puccini Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen boster am berfformiad o Madama Butterfly

Opera gan y cyfansoddwr Eidalaidd Giacomo Puccini (1858-1924) yw Madama Butterfly. Mae'n opera mewn tair act (yn wreiddiol mewn dwy), gyda libreto Eidalaidd gan Luigi Illica a Giuseppe Giacosa.

Mae'r opera yn seiliedig ar stori fer 'Madame Butterfly' (1898) gan John Luther Long, a chafodd ei seilio ar straeon adroddodd Long i'w chwaer Jennie Correll a'r nofel hanner-hunangofiannol Ffrengig Madame Chrysanthème gan Pierre Loti.[1][2][3] Cafodd fersiwn Long ei ddramateiddio gan David Baelasco i'r ddrama un-act Madame Butterfly: Trychineb Siapan, a symudodd i Lundain ar ôl ei pherfformiad cyntaf yn Efrog Newydd yn 1900, lle welodd Puccini'r cynhyrchiad yn y flwyddyn honno.[4]

Perffromiwyd gyntaf fersiwn gwreiddiol yr opera, mewn dwy act, ar 17 Chwefror 1904 yn La Scala yn Milan. Derbyniwyd yn wael, er gweathaf cantorion nodweddig y cyfnod fel soprano Rosina Storchio, tenor Giovanni Zenatello a'r bariton Giuseppe De Luca yn y prif rolau. Yn gyfrifol am hwn oedd Puccini ar ôl iddo gwblhau'r opera'n hwyr, a olygodd nid oedd digon o amser ar gyfer ymarferion. Adolygodd Puccinni yr opera, gan hanneru'r ail act, gyda'r Corws Hymian fel pont i'r trydedd act, gan wneud newidiadau eraill hefyd. Daeth llwyddiant o'r diwedd. gan ddecrhau gyda'r perfformiad cyntaf ar 28 Mai 1904 yn Brecia.[5]

Fersiynau

[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Puccini pump fersiwn o'r opera. Cafodd y fersiwn gwreiddiol dwy-act,[6] a chyflwynwyd am berfformiad y byd cyntaf yn La Scala ar 17 Chwefror 1904, ei gilio ar ôl premier trychinebus. Yna, ailysgrifennodd Puccini yr opera, y tro hwn mewn tair act. Cafodd yr ail fersiwn ei berfformio ar 28 Mai 1904 yn Brescia lle roedd yn llwyddiannus iawn, gyda Solomiya Krushelnytska yn chwarae rhan Cio-Cio-San. Cafodd yr ail fersiwn[7] ei berfformio yn yr Unol daleithiau yn 1906, yn gyntaf yn Washington, D.C. ym mis Hydref, ac wedyn yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd, wedi'i berfformio gan gwmni New English Opera Company Henry Savage.

Yn 1906, ysgrifennodd Puccini trydydd fersiwn,[8] a pherfformiwyd yn yr Opera Metropolitan yn Eforg Newydd ar 11 chwefror 1907. Yn hwyrach yn y flwyddyn, gwnaeth Puccini nifer o newidiadau i'r sgôr lleisiol a cherddorfaol, a daeth hwn yn bedwerydd fersiwn a chafodd ei berfformio ym Mharis.

Eto yn 1907, gwnaeth Puccini ei gywiriadau olaf i'r opera mewn adolygiad am y pumed dro,[9] [10]sydd wedi'i adnabod fel y 'Fersiwn Sylfaenol' a'r fersiwn a chaiff ei berffomio y mwyaf aml ar draws y byd. Er hyn, mae'r fersiwn gwreiddiol 1904 yn cael ei berfformio ambell waith, fel ar achylsur agor tymor La Scala ar 7 Rhagfyr 2016, wedi'i arwain gan Riccardo Chailly.[11]

Hanes perfformio

[golygu | golygu cod]

Mae fersiynau premiere Madam Butterfly yn nhai opera y byd yn cynnwys Teatro de la Opera de Buenos Aires ar 2 Gorffennaf 1904 o dan Arturo Toscanini, perfformiad cyntaf y byd tu allan i'r Eidal. Roedd ei pherfformiad cyntaf ym Mhrydain yn Llundain ar 10 Gorffennaf 1905 yn Nhŷ Brenhinol Opera, Covent Garden, tra cafwyd perfformiad cyntaf yr UDA yn Saesneg ar 15 Hydref 1906, yn Washington, D. C., yn Theatr Columbia. Cafwyd y perfformiad cyntaf yn Efrog Newydd ar 12 Tachwedd yr un flwyddyn yn Theatr Gardd. Perfformiodd yr Opera Metropolitan ar 11 Chwefror 1907 wedi'i goruwchwylio gan Puccini gyda Geraldine Farrar fel Cio-Cio-San, Enrico Caruso fel Pinkerton, Louise Homer fel Suzuki, Antonio Scotti fel Sharpless, ac ARturo Vigna yn arwain; byffai Farrar yn canu 95 o berffomiadau fel Cio-Cio-San yn Theatr y Met rhwng 1907 a 1922. Mae Madama Butterfly wedi'i berfformio bron pob tymor yn y Met, heblaw am gyfnod bwlch yn ystod yr Ail Ryfel Byd rhwng 1942 a 1945 o ganlyniad i'r gelyniaeth rhwng yr UDA a Siapan. Cafwyd y perfformiad cyntaf yn Awstralia yn y Theatr Brenhinol yn Sydney ar 26 Mawrth 1910, gan gynnwys Amy Eliza Castles.

Rhwng 1915 a 1920, enillodd Tamaki Miura enwogrwydd rhyngwladol am ei pherfformiadau yn chwarae rhan Cio-cio-San. Gellir ffeindio cofeb i'r gantores, gyda Puccini hefyd, yng ngardd Glover yn ninas Nagaskai, lle lleolir yr opera.[12]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Llais
Cio-Cio-San (Madama Butterfly) soprano
Suzuki, ei forwyn mezzo-soprano
B. F. Pinkerton, is-gapten yn llynges yr UDA tenor
Sharpless, conswl yr UDA yn Nagasaki bariton
Goro, tenor
Tywysog Yamadori tenor
Y Bonze, ewythr Cio-Cio-San bas
Yakusidé, ewythr Cio-Cio-San bas
Comisiynydd Imperialaidd bas
Cofrestrydd swyddogol bas
Mam Cio-Cio-San mezzo-soprano
Modryb soprano
Cyfnither soprano
Kate Pinkerton mezzo-soprano
Dolore ('Tristwch'), plentyn Cio-Cio-San rôl distaw

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Cyfnod: 1904

Lleoliad: Nagasaki, Japan.

Yn 1094, mae swyddog llynges yr UDA o'r enw Pinkerton yn rhentu tŷ ar fynydd yn Nagasaki, Siapan, ar gyfer ei hunain a'i fiance, 'Butterfly'. Ei henw go-iawn yw Cio-Cio-San (yn deillio o'r Japaneaidd am 'bilipala'). Mae'n ferch 15 oed sy'n cael ei phriodi am gyfleustra Pinkerton, ac mae'n bwriadu ei gadael unwaith mae'n ffeindio gwraig Americanaidd gan fod cyfreithiau ysgariad yn Japan yn llac iawn.Mae'r briodas am gymryd lle yn y tŷ. Roedd Butterfly wedi cyffroi gymaint roedd wedi trosi i Gristnogaeth yn gyfrinachol. AR ôl y seremoni briodas, daeth ei hewythr a oedd heb ei wahodd, bonze, wedi darganfod ei throsi yn dod i'r tŷ ac yn ei felltithio ac yn gorchymyn i'r gwesteion i adael, a maent yn gwneud gan ei chondemnio. Mae Pinkerton a Butterfly yn canu deuawd garu ac yn paratoi i treulio eu noson cyntaf gyda'i gilydd.

Tair blwyddyn yn ddiweddarach, mae Butterfly yn dal i aros ar gyfer Pinkerton i ddychwelyd o america, gan adawodd yn fuan ar ôl eu priodas. Mae ei morwyn Suzuki yn ceisio i'w hargyhoeddi nad yw Pinkerton am ddod yn ôl, on ni wnaiff Butterfly ei chlywed. Mae Goro, y brocer priodas a wnaeth cyplu Pinkerton a Butterfly yn y lle gyntaf, yn ceisio ailbriodi Butterfly, ond yw hi'n gwrando ar ef chwaith. Mae'r conswl Americanaidd, Sharpless, yn dod i'r tŷ gyda llythr mae ef wedi derbyn gan Pinkerton sy'n gofyn iddo dorri newyddion i Butterfly: bod Pinkerton yn dychwelyd i Japan, ond nid yw Sharpless yn gallu gorffen adrodd cynnwys y llythr iddi oherwydd cyffroi Butterfly. Mae Sharpless yn gofyn i Butterfly beth y byddai'n gwneud os ni fydd Pinkerton yn dychwelyd. Mae Butterfly yn datgelu rhoddodd genedigaeth i fab Pinkerton ar ôl iddo adael ac mae'n gofyn i sharpless i ddweud iddo.

Mae Suzuki yn deffro yn y bore ac mae Butterfly yn cysgu o'r diwedd. Mae Sharpless a Pinkerton yn cyrraedd y tŷ, ynghyd â gwraig Americanaidd newydd PInkerton, Kate. Maent wedi dod oherwydd cytundeb Kate i fagu'r plentyn. Pan welai Pinkerton sut y mae Butterfly wedi addurno'r tŷ am ei ddychweliad, sywleddolai mai camgymeriad enfawr wedi'i wneud. Mae'n cyfaddef ei fod yn gachgi gan adael Suzuki, Sharpless a Kate i ddweud wrth Butterfly. Mae Pinkerton yn cytuno i roi iddo eu plentyn os y ddaw Pinkerton i'w gweld, yna mae'n gweddio i gerfluniau ei hynafiaid, gan ddweud ffarwel i'w mab ac yn gorchuddio ei lygaid. Mae'n rhoi baner Americanaidd iddo yn ei ddwylo ac yn mynd tu ôl i sgrîn, ac yn lladd ei hunain gyda chyllell seppuku ei thad. Mae Pinkerton yn brysio i mewn, ond mae'n rhy hwyr i'w hachub, ac mae Butterfly yn marw.

Offeryniaeth

[golygu | golygu cod]

Cafodd Madama Butterfly ei sgorio ar gyfer tri ffliwt (y trydydd yn dyblu piccolo), dau obo, un cor anglais, dau glarinét yn B-leiaf, clarinét bas yn B-leiaf, dau fasŵn, pedwar corn ffrengig yn F, tri trwmped yn F, tri trombon tenor, trombon bas, ac offerynnau taro gan gynnwys timpani, symbalau, triongl, drwm gwrifrau, drwm bas, tam-tam, gong, clychau Japaneaidd, allweddell glockenspiel, telyn a llinynnau.[13]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Madama Butterfly - Disgyddiaeth

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Van Rij, Jan. Madame Butterfly: Japonisme, Puccini, and the Search for the Real Cho-Cho-San. Stone Bridge Press, Inc., 2001.
  2. Lane Earns, "Madame Butterfly: The Search Continues", Opera Today 16 August 2007. Review of Van Rij's book on operatoday.com
  3. Chadwick Jenna, "The Original Story: John Luther Long and David Belasco" Archived 20 April 2013 at the Wayback Machine on columbia.edu
  4. Groos, Arthur (1994). The Puccini Companion, Lieutenant F. B. Pinkerton: Problems in the Genesis and Performance of Madama Butterfly. New York: Norton. pp. 169–201. ISBN 978-0-393-02930-7.
  5. Carner 1979, p. 21.
  6. Richard S Bogart and Mark D Lew, (eds.) Version 1: Cast of characters and libretto (in Italian), 1904 G. Ricordi & C. and Boosey & Co. and Breyer Hermanos
  7. Richard S Bogart and Mark D Lew, (eds.) Version 2 (Brescia, 1904): Cast of characters and libretto (in Italian), 1904 G. Ricordi & C. and Boosey & Co.
  8. Richard S Bogart and Mark D Lew, (eds.), Version 3: (American, 1906). Cast of characters and libretto in Italian and English, 1906 Milano: G. Ricordi & C.
  9. Mark D Lew, Version 5: (The "Standard Version") Archived 30 March 2010 at the Wayback Machine, 1907 G. Ricordi & C.: New York – Milan – Rome – Naples – Palermo – London – Paris – Leipsig – Buenos Ayres – S. Paulo. 266 pp
  10. "Madama Butterfly: Libretto". opera.stanford.edu.
  11. "Madama Butterfly – Teatro alla Scala". www.teatroallascala.org. Archived from the original on 5 December 2016. Retrieved 14 December 2016.
  12. Carner 1979, p. 32.
  13. "Madama Butterfly". Retrieved 27 February 2021.