Carmen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Carmen
Opera gan Georges Bizet
Carmen - illustration by Luc for Journal Amusant 1875.jpg
Cartwn o'r Journal amusant, 1911
Libretydd
Iaith Fangeg
Seiliedig ar Carmen gan
Prosper Mérimée
Premiere 3 Mawrth 1875 (1875-03-03)
Opéra-Comique, Paris

Opera Ffrengig gan Georges Bizet ydy Carmen, yn y genre "opéra comique". Mae'r libreto gan Henri Meilhac a Ludovic Halévy, yn seiliedig ar y nofela o'r un enw gan Prosper Mérimée, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1845,[1]. Mae'n bosib ei fod wedi ei ddylanwadu gan y gerdd naratif The Gypsies (1824) gan Alexander Pushkin.[2] Darllenodd Mérimée y gerdd yn Rwseg ym 1840 a chyfieithodd ef i'r Ffrangeg ym 1852.[3]

Cast[golygu | golygu cod y dudalen]

Galli-Marié yn chware Carmen
Rôl Llais
Carmen, Merch Sipsi mezzo-soprano
Don José, Corporal y dragwniaid tenor
Escamillo, Toreador bas- bariton
Micaëla, Morwyn o'r pentref soprano
Zuniga, Is-gapten y dragwniaid bas
Moralès, Corporal y dragwniaid baritone
Frasquita, Cydymaith Carmen soprano
Mercédès, Cydymaith Carmen mezzo-soprano
Lillas Pastia, Tafarnwr llafar
Le Dancaïre, Smyglwr bariton
Le Remendado, Smyglwr tenor
Tywysydd llafar
Corws: Milwyr, gwyr ifanc, merched sy'n gweithio yn y ffatri sigarennau, cefnogwyr Escamillo,
sipsiwn, marsiandwyr / gwerthwyr orenau, heddlu, ymladdwyr teirw, pobl, cryts tlawd.
  • Mae manylion y cast fel y darperir yn sgôr piano a lleisiol y perfformiad gwreiddiol.[4]

Braslun o'r plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Act 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Set: Sgwâr yn Sevilla. Ar y dde mae drws i'r ffatri tybaco. Yn y cefndir mae pont ac ar y chwith warchodfa filwrol.

Mae grŵp o filwyr yn ymlacio ar y sgwâr, yn aros am newid y gard ac yn gwneud sylwadau am y rhai sy'n pasio ("Sur la place, chacun passe"). Mae Micaëla yn dod i'r sgwâr, yn chwilio am José. Mae Moralès yn dweud wrthi nad yw José ar ddyletswydd eto ac yn ei gwahodd i aros gyda nhw. Mae hi'n gwrthod, gan ddweud y bydd yn dychwelyd yn ddiweddarach. Mae José yn cyrraedd gyda'r gwarchodlu newydd. Mae'n cael ei gyfarch a'i efelychu gan dorf o gryts tlawd ("Avec la garde montante").[5]

Mae cloch y ffatri tybaco yn canu ac mae'r merched sy'n gweithio yno yn dod allan i'r sgwâr ac yn dechrau man siarad efo'r dynion ifanc yn y dorf ("La cloche a sonné"). Mae Carmen yn dod i mewn ac yn canu ei habanera ysgubol ar natur angharedig cariad ("L'amour est un oiseau rebelle"). Mae'r dynion yn pledio efo hi i ddewis cariad o'u mysg. Ar ôl profocio'r dynion ifanc am ychydig mae hi'n taflu blodyn at Don José, sydd wedi bod yn ei hanwybyddu hi, mae o'n cael ei gythruddo gan ei hyfder.

Mae'r merched yn dychwelyd i'r ffatri. Mae Micaëla yn dychwelyd ac yn rhoi llythyr i José a chusan gan ei fam ("Parle-moi de ma mère!"). Mae'r llythyr yn dweud bod ei fam eisiau iddo ddychwelyd adref a phriodi Micaëla. Wrth i José datgan ei fod yn barod i ildio i ddymuniadau ei fam, mae'r menywod yn llifo allan o'r ffatri mewn aflonyddwch. Mae Zuniga, is-gapten y gwarchodlu, yn dysgu bod Carmen wedi ymosod ar fenyw â chyllell. Pan gaiff ei herio, mae Carmen yn ateb mewn ffordd ddireidus ("Tra la la ... Coupe-moi, brûle-moi"); Mae Zuniga yn gorchymyn i José i glymu ei dwylo tra ei fod o'n paratoi gwarant i'w danfon i'r carchar. Wedi ei adael ar ei ben ei hun gyda José, mae Carmen yn ei hudo gyda chanu am noson o ddawnsio ac angerdd gyda'i chariad - pwy bynnag gallai fod - yn nhafarn Lillas Pastia. Wedi'i swyno a'i ddrysu, mae José yn cytuno i ryddhau ei dwylo. Wrth iddi gael ei harwain i'r carchar gan José mae hi'n ei wthio i'r llawr ac yn ffoi gan chwerthin. Caiff José ei arestio am esgeuluso ei ddyletswydd.[6]


Act 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Set: Tafarn Lillas Pastia

Mae dau fis wedi mynd heibio. Mae Carmen a'i ffrindiau Frasquita a Mercédès yn difyrru Zuniga a swyddogion eraill ("Les tringles des sistres tintaient") yn nhafarn Pastia. Mae Carmen yn falch iawn o ddysgu am ryddhau José wedi cyfnod o ddau fis yn y carchar. Y tu allan, mae corws a gorymdaith yn cyhoeddi dyfodiad y toreador Escamillo ("Vivat, vivat le Toréro"). Wedi'i wahodd y tu mewn, mae'n cyflwyno'i hun gyda chan enwog y Toreador ("Tostor Tost, je peux vous le rendre") ac yn gosod ei olwg ar Carmen, sy'n ei brwsio o'r neilltu. Mae Lillas Pastia yn gwthio'r torfeydd a'r milwyr allan o'r dafarn.[7]

Gyda dim ond Carmen, Frasquita a Mercédès ar ôl, mae'r smyglwyr Dancaïre a Remendado yn cyrraedd ac yn datgelu eu cynlluniau i waredu rhywfaint o gontraband a gafwyd yn ddiweddar ("Nous avons ên tête une affaire"). Mae Frasquita a Mercédès yn awyddus i'w helpu, ond mae Carmen yn gwrthod, gan ei bod hi am aros am José. Ar ôl i'r smyglwyr adael mae José yn cyrraedd. Mae Carmen yn ei drin i ddawns egsotig breifat ("Je bais canser en votre honneur ... La la la"), ond mae ei chân yn cael ei ateb gan alwad y corn diwedd nos o'r barics. Pan fydd José yn dweud bod rhaid iddo ddychwelyd i'w dyletswydd, mae hi'n ei watwar. Mae o'n ymateb i'r gwatwar trwy ddangos iddi'r blodyn gwnaeth hi daflu ato yn y sgwâr ac mae o wedi cadw fel symbol o serch trwy gyfnod ei garchariad ("La fleur que tu m'avais jetée"). Heb ei pherswadio, mae Carmen yn gofyn iddo brofi ei gariad wrth adael gyda hi. Mae José yn gwrthod encilio'n anghyfreithlon o'r fyddin. Wrth i José paratoi i ymadael a'r dafarn a dychwelyd i'r barics mae Zuniga yn cyrraedd gan chwilio am Carmen. Mae Zuniga a José yn ymladd, ac yn cael eu gwahanu gan y smyglwyr sy'n dychwelyd wedi clywed y cythrwfl. Wedi ymosod ar swyddog uwch, nid oes gan José ddewis, bellach, ond ymuno â Carmen a'r smyglwyr ("Suis-nous à travers la campagne").

Act 3[golygu | golygu cod y dudalen]

Set: Man gwyllt yn y mynyddoedd.

Mae Carmen a José yn dod i fan ar y mynydd gyda'r smyglwyr a'u hysbail ("Écoute, écoute, compagnons"); Erbyn hyn mae Carmen wedi diflasu gyda José ac yn dweud wrtho dylai fynd yn ôl at ei fam. Mae Frasquita a Mercédès yn mwynhau eu hunain trwy ddarllen eu ffortiwn mewn cardiau. Mae Carmen yn ymuno â nhw ac yn darganfod bod y cardiau'n rhagfynegi ei marwolaeth hi a José. Mae'r merched yn gadael i chwilio am y swyddogion tollau sy'n gwylio'r ardal. Rhoddir José ar ddyletswydd gwarchod y gwersyll.[8]

Daw Micaëla gyda thywysydd, gan chwilio am José ac yn benderfynol o'i ddwyn gan Carmen ("Je dis que rien ne m'épouvante"). Wrth glywed ergyd gwn mae hi'n cuddio mewn ofn. José, sydd wedi tanio ar ymosodwr, sy'n troi allan i fod yn Escamillo. Mae pleser José wrth gwrdd â'r toreador yn troi at ddicter pan fydd Escamillo yn datgan ei fod dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Carmen. Mae'r ddau yn ymladd ("Je suis Escamillo, toréro de Grenade"), ond mae'r smyglwyr a merched yn torri ar draws yr anghydfod gan ddychwelyd i'r gwersyll ("Holà, hola José"). Wrth i Escamillo ymadael, mae'n gwahodd pawb i'w sioe ymladd teirw nesaf yn Sevilla. Mae Micaëla yn cael ei darganfod yn cuddio; i gychwyn mae José yn dweud na fydd yn mynd adref gyda hi er gwaethaf dirmyg Carmen, ond mae'n cytuno i fynd pan ddywedir wrtho fod ei fam yn marw. Wrth iddo ymadael i weld ei fam am y tro olaf mae'n rhoi sicrwydd y bydd yn dychwelyd. Mae Escamillo yn cael ei glywed yn y pellter yn canu cân y toreador.

Act 4[golygu | golygu cod y dudalen]

Set: Sgwâr yn Sevilla, yn y cefndir mae waliau hen amffitheatr.[9]

Mae Zuniga, Frasquita a Mercédès ymhlith y dyrfa yn aros i'r ymladdwyr teirw i gyrraedd ("Les voici! Voici la quadrille!"). Daw Escamillo â Carmen, ac maent yn mynegi eu cariad at ei gilydd ("Si tu m'aimes, Carmen"). Wrth i Escamillo fynd i mewn i'r arena, mae Frasquita a Mercedes yn rhybuddio Carmen bod José gerllaw, ond mae Carmen heb ofn ac yn barod i siarad ag ef. Ar ben ei hun, mae José orffwyll yn ei chyfarch hi ("C'est toi! C'est moi!"). Tra ei fod yn pledio'n ofer iddi ddychwelyd ato, clywir bloeddiadau o'r arena. Fel y mae José yn gwneud ei apêl ddirdynnol olaf iddi, mae Carmen yn tynnu modrwy a rhoddwyd iddi gan José ac yn ei daflu ato ac yn ceisio mynd i mewn i'r arena. Mae José yn ei thrywanu hi ac wrth i'r tyrfaoedd bloeddio eu llawenydd bod Escamillo wedi ei ennill ei frwydr yn erbyn y tarw, mae Carmen yn marw. Mae José ar ei liniau ac yn canu "Ah! Carmen! Ma Carmen adorée!"; wrth i'r dyrfa ddod allan o'r arena ac mae José yn cyfaddef ei fod wedi lladd y ferch yr oedd yn ei charu.

Detholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Teitl y gân Clip sain Artist
Agorawd
Anhysbys (1875)
L'amour est un oiseau rebelle (Habanera)
Anhysbys (1875)
Holà! Carmen!
Chœur et l'Orchestre de Opéra-Comique
Chanson du toréador
Pasquale Amato
La fleur que tu m'avais jetée
Arthur Davies

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Carmen - Disgyddiaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyhoeddwyd y nofela'n wreiddiol ar ffurf cyfres ym 1845 - La Revue des Deux Mondes, ac ar ffurf llyfr yn 1847 (o'r Wicipedia Ffrangeg).
  2. Hammond A. Music Note in programme for Carmen. Royal Opera House Covent Garden, 1984.
  3. Briggs A D. Did Carmen come from Russia? in English National Opera programme, 2004; the poem also forms the basis of Rachmaninov's one-act opera Aleko.
  4. Mina Curtiss (Bizet and His World, 1959) tud. 390
  5. Opera'r Metropolitan - Synopsis:Carmen adalwyd 8 Hydref 2018
  6. Cwmni Recordiau Naxos - Opera Libretti: Carmen adalwyd 8 Hydref 2018
  7. A Summary of “Carmen” adalwyd 8 Hydref 2018
  8. Opera Phililidelphia Full Synopsis of Carmen adalwyd 8 Hydref 2018
  9. Opera Ffolio Carmen Act 4 adalwyd 8 Hydref 2018