La traviata

Oddi ar Wicipedia
La traviata
Gwisg Violetta yn y perfformiad cyntaf, 1853
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd, Italian opera Edit this on Wikidata
Label brodorolLa traviata Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Rhan otriawd poblogaidd Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1852 Edit this on Wikidata
Genretragedy, opera Edit this on Wikidata
CymeriadauVioletta Valéry, Alfredo Germont, Giorgio Germont, Flora Bervoix, Annina, Gastone de Letorières, Marchese d'Obigny, Dottore Grenvil, Giuseppe, Gwas Flora, Comisiynydd, Cyfeillion Violetta a Flora, Barone Douphol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLibiamo ne' lieti calici Edit this on Wikidata
LibretyddFrancesco Maria Piave Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTeatro La Fenice Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af6 Mawrth 1853 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolLa traviata Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithParis Edit this on Wikidata
Hyd1.5 awr Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Opera tair act gan Giuseppe Verdi sydd wedi ei osod i libreto Eidalaidd gan Francesco Maria Piave ydy La traviata. Seilir yr opera ar La dame aux Camélias (1852), drama a addaswyd o'r nofel gan Alexandre Dumas fils. Yn llythrennol, mae'r teitl "La traviata" yn golygu Gwraig ar Gyfeiliorn, neu efallai'n fwy trosiadol, Cwymp y Wraig. Yr enw gwreiddiol oedd Violetta, ar ôl y prif gymeriad.

Roedd Piave a Verdi eisiau dilyn esiampl Dumas gan osod yr opera mewn cyd-destun cyfoes, ond mynnodd yr awdurdodau yn La Fenice ei bod yn cael ei gosod yn y gorffennol, "c. 1700". Dim ond yn y 1880au y gwireddwyd dymuniadau gwreiddiol y cyfansoddwr a'r libretydd ac y cynhyrchwyd cynyrchiadau "realistig"[1]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Rhan Llais
Violetta Valéry, putain llys soprano
Alfredo Germont, bourgeois ifanc o deulu taleithiol tenor
Giorgio Germont, tad Alfredo bariton
Flora Bervoix, cyfaill Violetta mezzo-soprano
Annina, morwyn Violetta soprano
Gastone de Letorières, cyfaill Alfredo tenor
Barwn Douphol, cariad Violetta, cystadleuydd Alfredo bariton
Ardalydd dObigny bas
Doctor Grenvil bas
Giuseppe, gwas Violetta tenor
Gwas Flora bas
Comisiynydd bas

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Act I[golygu | golygu cod]

Y llwncdestun i Gariad (trwy ddiolch i Musopen)

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.
Y parti yn nhŷ Violetta gan Carl d'Unker

Mae Violetta Valéry yn gwybod ei bod hi ar fin marw, yn lluddedig wedi bywyd gwyllt y butain llys. Mewn parti mae hi'n cael ei chyflwyno i Alfredo Germont, gŵr sydd wedi dotio arni ers peth amser. Mae Alfredo wedi bod yn holi am ei iechyd pob dydd. Mae gwesteion y parti wedi eu difyrru gan ei ymddygiad emosiynol naïf ac yn gofyn iddo gynnig llwncdestun. Mae Alfredo yn codi ei wydr i wir gariad, ond mae Violetta yn ymateb trwy gynnig llwncdestun i gariad rhydd (Libiamo ne' lieti calici)[2].

Mae Violetta yn llesmeirio ac mae'r holl westai, ac eithrio Alfredo, yn ymadael. Mae Alfredo yn datgan ei gariad ond mae Violetta yn ymateb trwy ddatgan nad oes lle yn ei bywyd am y fath deimlad. Mae hi'n rhoi blodyn iddo, gan ofyn iddo ddychwelyd pan fydd y blodyn yn dechrau gwywo. Gan fydd y blodyn yn debygol o wywo dros nos mae Alfredo yn ymadael yn hapus gan weld y rhodd fel gwahoddiad i ymweld â hi eto'r ddiwrnod canlynol.

Wedi ei gadael ar ei  phen ei hun, mae teimladau Violetta yn cael eu rhwygo rhwng y dymuniad i barhau a phleserau bywyd y llys a'r awydd mae Alfredo wedi codi ynddi i gael profi gwir gariad.

ACT II[golygu | golygu cod]

Golygfa 1[golygu | golygu cod]

Mae Violetta wedi dewis bywyd gyda Alfredo, ac maent yn mwynhau eu cariad yng nghefngwlad, ymhell o gymdeithas. O ganfod bod eu bywyd newydd dim ond yn bosibl oherwydd bod Violetta wedi bod yn gwerthu ei heiddo, mae Alfredo gadael yn syth i Baris i gaffael arian. Tra fo Alfredo i ffwrdd mae ei dad, Giorgio Germont, yn ymweld â hi. Mae o'n mynnu bod hi'n ymadael a'i fab gan fod eu perthynas yn bygwth gobeithion priodasol chwaer Alfredo.

Gan gael ei pherswadio gan y tad nad oes dyfodol i'w pherthynas gyda Alfredo mae hi'n cytuno i ymadael ag ef am fyth. Mae hi'n ysgrifennu llythyr ffarwel ac yn mynd yn ôl i'w hen fywyd gan dderbyn gwahoddiad i ddawns mwgwd.

Mae Alfredo yn dychwelyd, ac wrth ei fod yn darllen y llythyr, mae ei dad yn ymddangos ac yn ceisio ei gysuro ef. Ond nid oes cysur i gael iddo. Mewn tymer gwyllt o eiddigedd mae o'n penderfynu ceisio dial am frad Violetta.

Golygfa 2[golygu | golygu cod]

Yn y ddawns mwgwd mae'r newyddion am ymwahaniad Violetta ac Alfredo yn ymledu. Mae'r gwesteion yn perfformio dawnsfeydd ffiaidd i chwarddi ar Alfredo am ei ffolineb mewn cariad.  Yn y cyfamser, mae Violetta a'i chariad newydd, y Barwn Douphol, yn cyrraedd. Mae Alfredo yn curo'r barwn wrth y bwrdd hapchwarae ac mae Alfredo yn ennill ffortiwn. Pan fydd pawb arall wedi ymadael, mae Alfredo yn herio Violetta, sy'n honni e bod yn wirioneddol mewn cariad â'r barwn. Yn ei dymer, mae Alfredo yn galw'r gwesteion yn dystion i ddatganiad ganddo nad oes ganddo bellach unrhyw ddyled i Violetta. Mae'n taflu ei enillion ati. Mae Giorgio Germont, sydd wedi bod yn dyst i'r olygfa, yn ceryddu ei fab am ei ymddygiad. Mae'r barwn yn herio ei gystadleuydd i ornest farwol (duel)[3].

Act III[golygu | golygu cod]

Mae Violetta ar fin marw. Mae ei ffrind olaf, Doctor Grenvil, yn gwybod nad oes ganddi ond ychydig oriau i fyw. Mae tad Alfredo wedi ysgrifennu at Violetta, gan ddweud wrthi na chafodd ei fab ei anafu yn yr ornest. Yn llawn edifeirwch, mae Germont wedi dweud wrth ei fab am aberth Violetta. Mae Alfredo am ail uno â hi cyn gynted ag y bo modd. Mae Violetta yn ofni y gallai fod yn rhy hwyr. Clywir sŵn dathliadau mawr y tu allan tra bod Violetta mewn gwewyr marwol. Ond mae Alfredo yn cyrraedd ac mae'r aduniad yn llenwi Violetta gyda chariad. Mae hi'n teimlo llawn bywyd o'r newydd. Mae pob tristwch a dioddefaint yn ymddangos fel ei bod wedi ymadael a hi - ond dim ond rhith terfynol ydyw, cyn i farwolaeth ei threchu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Holden, Amanda (ed.), The New Penguin Opera Guide, New York: Penguin Putnam, 2001, p. 995. ISBN 0-140-29312-4
  2. "Synopsis: La Traviata". The Metropolitan Opera.
  3. "Britannica - La traviata". Britannica. Cyrchwyd 17/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]