Tosca

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tosca
Opera gan Giacomo Puccini
Tosca (1899).jpg
Poster
Libretydd
Iaith Eidaleg
Seiliedig ar La Tosca gan
Victorien Sardou
Premiere 14 Ionawr 1900 (1900-01-14)
Teatro Costanzi, Rome

Mae Tosca yn opera mewn tair act gan Giacomo Puccini [1] i libreto Eidalaidd gan Luigi Illica a Giuseppe Giacosa. Mae'r gwaith sy'n seiliedig ar ddrama Victorian Sardou, 1887, La Tosca, yn ddarn ddramatig. Mae'n cael ei osod yn Rhufain ym mis Mehefin 1800, pan oedd rheolaeth Deyrnas Napoli o Rufain dan fygythiad gan ymosodiad Napoleon ar yr Eidal. [2] Mae'n cynnwys darluniau o artaith, llofruddiaeth a hunanladdiad, [3] yn ogystal â rhai o ariâu telynegol enwocaf Puccini.

Perfformiad cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Perfformiwyd Tosca am y tro cyntaf yn Teatro Costanzi, Rhufain ar 14 Ionawr 1900 o dan arweiniad Leopoldo Mugnone. [4] Chwaraewyd rhan Floria Tosca gan Hariclea Darclée, rhan Mario Cavaradossi gan Emilio De Marchi, rhan Scarpia gan Eugenio Giraldoni a rhan Cesare Angelotti, gan Ruggero Galli yn y perfformiad cyntaf. Cafodd Tosca ei berfformio am y tro cyntaf ar adeg o aflonyddwch yn Rhufain, a chafodd ei berfformiad cyntaf ei ohirio am ddiwrnod oherwydd ofn bwydo'r aflonyddwch [5]. Er gwaethaf adolygiadau anfoddhaol gan y beirniaid, roedd yr opera yn llwyddiant mawr ar unwaith gyda'r cyhoedd.

Cymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma restr o gymeriadau Tosca[6]

Rôl Llais
Floria Tosca, cantores enwog soprano
Mario Cavaradossi, arlunydd tenor
Barwn Scarpia, pennaeth yr heddlu baritone
Cesare Angelotti, cyn conswl y Weriniaeth Rufeinig bas
Clochydd bariton
Spoletta, asiant yr heddlu tenor
Sciarrone, asiant arall bass
Ceidwad carchar bass
Bugail bachgen soprano
Milwyr, asiantau heddlu, bechgyn allor, dynion a menywod bonheddig, trefwyr, crefftwyr

Cefndir hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl y libreto, mae digwyddiadau Tosca yn cael eu lleoli yn Rhufain ym mis Mehefin 1800. Mae Sardou, yn ei ddrama, yn ei nodi'n fwy manwl; Cynhelir La Tosca yn y prynhawn, gyda'r nos, a bore cynnar 17 a 18 Mehefin 1800.

Roedd yr Eidal wedi ei rannu, ers peth amser, i mewn i nifer o wladwriaethau bychain. Roedd y Pab yn llywodraethu'r taleithiau Pabyddol yng nghanolbarth yr Eidal gan gynnwys Rhufain. Ym 1796 ymosododd byddin Ffrengig o dan arweiniad Napoleon ar yr Eidal. Gorchfygodd y Ffrancod Rhufain ar 11 Chwefror 1798 gan ffurfio gweriniaeth yno. Roedd y weriniaeth newydd yn cael ei lywodraethu gan saith conswl. Yn yr opera mae'r cymeriad Angelloti yn un o'r consyliaid. Ym mis Medi 1799 mae byddin Ffrainc, a fu'n amddiffyn y weriniaeth yn ymadael a Rhufain. Wrth i'r Ffrancod ymadael mae lluoedd Deyrnas Napoli yn meddiannu’r ddinas.

Ym Mai 1800 dychwelodd Napoleon a'i lluoedd i'r Eidal. Ar 14 Mehefin bu frwydr rhwng lluoedd Ffrainc a lluoedd Awstria, brwydr Marengo [7]. Roedd yr Awstriaid yn gynghreiriaid i Ddinas Napoli. Erbyn canol bore roedd yr Awstriaid yn rheoli maes y gad, ac roedd yn ymddangos eu bod yn fuddugoliaethus. Danfonodd Michael von Melas cadlywydd yr Awstriaid negeswyr i Rufain gyda newyddion am y fuddugoliaeth. Yn y prynhawn cyrhaeddodd lluoedd Ffrengig newydd a threchwyd yr Awstriaid, danfonwyd negeswyr eraill i Rufain i ddiweddaru'r newyddion. Gadawodd lluoedd Napoli Rhufain, a threuliodd y ddinas y pedair blynedd ar ddeg nesaf o dan oruchwyliaeth Ffrainc. Mae'r opera Tosca yn adrodd hanes digwyddiadau yn Rhufain rhwng derbyn y newyddion cychwynnol bod Napoleon wedi colli a derbyn y newyddion diweddarach ei fod yn fuddugol.

Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Act un[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Eglwys Sant Andrea della Valle. Hanner dydd.[8] Mae Angelotti, carcharor gwleidyddol ar ffo, yn ceisio lloches tu mewn i eglwys Sant Andrea della Valle. Wrth iddo ddod o hyd i le i guddio, mae Clochydd ac yna'r arlunydd, Mario Cavaradossi. Mae Cavardossi yn gweithio ar lun o Fair Magdalen, wedi'i ysbrydoli gan chwaer Angelotti, Marchesa Attavanti. [9] Wedi i'r clochydd ymadael, mae Angelotti yn dod allan o'i guddfan. Mae Cavaradossi, yn cydnabod ef ac yn addo ei helpu, ond yn dweud wrtho am guddio pan fydd ei gariad, y canwr opera Floria Tosca, yn cyrraedd. Mae hi'n gandryll bod peintiad Cavaradossi o'r Madona wedi ei selio ar fenyw arall. Unwaith y bydd Tosca wedi mynd, mae Angelotti yn ail-ymddangos. Clywir canon yn ergydio fel arwydd bod yr heddlu wedi darganfod bod Angelotti wedi dianc o'r carchar, ac mae ef a Cavaradossi yn ffoi i dŷ'r arlunydd. [10]

Mae'r clochydd yn dychwelyd, gyda chlerigwyr a chôr o fechgyn allor i ddathlu'r newyddion bod Napoleon wedi ei drechu ym Mrwydr Marengo. Mae'r cyffro cyffredinol yn cael ei dorri'n fyr gan fynedfa Scarpia, Prif Swyddog yr Heddlu, ar lwybr Angelotti. Mae Tosca yn cyrraedd yn chwilio am Cavardossi, mae Scarpia yn chwarae ar ei eiddigedd. Gyda'i eiddigedd wedi tanio, mae Tosca yn gadael yn gynddeiriog ac mae Scarpia yn gorchymyn ei ddynion i'w dilyn yn y gobaith y bydd hi'n ei arwain i'r ffoadur. Mae Te Deum o ddiolchgarwch yn dechrau ac mae Scarpia yn datgan y bydd yn plygu Tosca i'w ewyllys. [11]

Act Dau[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Fflat Scarpia yn y Palazzo Farnese. Min nos. [12]

Yn ei fflat uwchben y Palazzo Farnese, mae Scarpia yn edrych ymlaen at y pleser o gael Tosca o dan ei rym. Ar ôl methu â dod o hyd i Angelotti, mae asiant Scarpia, Spoletta, yn cyrraedd gyda newyddion ei fod wedi dod o hyd i Cavardossi ac wedi ei arestio er mwyn ei holi. [13]

Wedi'i holi gan Scarpia, mae Cavaradossi yn gwadu unrhyw wybodaeth am Angelotti ac mae'n cael ei ddedfrydu i gael ei arteithio hyd ildio gwybodaeth. Pan gyrhaedda Tosca, mae Scarpia yn dechrau holi hi, gan ddefnyddio sgrechiadau Cavaradossi i'w phoenydio hi; O dan y gwasgedd hwn, mae Tosca yn datgelu lle cuddio Angelotti.

Mae Cavaradossi yn cael ei lusgo yn ôl i'r ystafell, wedi ei anafu'n arw a bron yn anymwybodol. Mae'n flin o ddarganfod bod Tosca wedi datgelu cuddfan Angelotti i Scarpia, ond ar y pryd mae newyddion yn cyrraedd bod adroddiad am fuddugoliaeth frenhinol yn Marengo yn anghywir a bod Napoleon wedi ennill dydd. O glywed y newyddion mae Cavaradossi yn rhoi bloedd o herfeiddiad ac mae Scarpia yn gorchymyn ei ddienyddio.

Wedi ei adael ar ei phen ei hun gyda Scarpia, mae Tosca yn erfyn am fywyd ei chariad. Mae Scarpia yn cytuno i arbed Cavaradossi os yw Tosca yn ildio yn rhywiol iddo. Gan weld dim dewis amgen mae Tosca yn cytuno. Mae Scarpia yn dweud wrth Spoletta i berfformio ffug dienyddiad. Wedi derbyn addewid o lwybr diogel iddi hi a Cavaradossi i ffoi Rhufain wae Tosca yn trywanu Scarpia i farwolaeth wrth iddo geisio derbyn ei wobr am wneud y fargen.

Act Tri[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa : Waliau Castell Sant Angelo. Awr cyn codi'r wawr.[14]

Clywir bachgen o fugail yn canu yn y pellter. Mae Cavaradossi yn aros ei ddienyddiad. Mae'n ceisio ysgrifennu llythyr o ffarwel i Tosca ac mae'n adlewyrchu ar y llawenydd y mae hi wedi'i rhoi iddo. Mae Tosca'n cyrraedd ac yn datgelu ei chynllun ar gyfer eu dianc. Mae'r sgwad tanio yn perfformio'r hyn y mae Tosca yn credu ei fod yn ffug dienyddiad. Mae'n sylweddoli'n rhy hwyr bod Scarpia wedi twyllo hi: roedd y dienyddiad yn un go iawn ac mae Cavaradossi wedi marw. Mae newyddion am lofruddiaeth Scarpia wedi torri. Wrth i Spoletta a'i ddynion rhuthro i mewn i arestio Tosca, mae hi'n neidio oddi ar wal y castell i'w marwolaeth.[15].......

Detholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]