Enrico Caruso

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Enrico Caruso
Lucia di Lammermoor (1908).

Enrico Caruso (25 Chwefror 18732 Awst 1921) oedd un o'r tenoriaid mwyaf llwyddianus yn hanes yr opera. Cafodd ei eni ar 25 Chwefror, 1873 a bu farw ar yr 2 Awst, 1921. Mae ei boblogrwydd wedi tyfu wrth i dechnoleg yr oes dyfu - sef y gallu i recordio a masnachu copiau o'i lais; roedd ganddo lais anghyffredin iawn, wyneb ifanc ond llais aeddfed. Gellir dadlau fod ei ddull ef o ganu wedi dylanwadu'n gryf ar bob tenor a'i ddilynodd.

Ei fywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod ei yrfa o 18 mlynedd (rhwng 1902 a 1920) fel canwr opera, recordiodd Enrico Caruso dros 260 o ddarnau a gwnaeth miliynau o ddoleri am ei drafferth. Disgiau 78 rpm oedd technoleg ddiweddara'r dydd. Drwy wrando'n astud ar esiamplau o'r recordiadau hyn, gellir clywed fel y datblygodd ei lais dros y blynyddoedd.

Canodd Caruso ar lwyfannau tai opera mwya'r byd, gan gynnwys La Scala yn Milan, y Ty Opera Cenedlaethol, Covent Garden yn Llundain a Teatro Colón yn Buenos Aires. Bu'n brif denor yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd am 17 o flynyddoedd. Roedd Arturo Toscanini, sef arweinydd yn y Met, yn cyfri Caruso fel y canwr gorau iddo gydweithio gydag ef erioed. Roedd techneg llais a'i steil yn urddasol - a hynny gyda theimlad angerddol ar adegau.



Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.