Pearl Harbor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o'r awyr o Pearl Harbor, gydag Ynys Fort yn y canol. Lleolir Cofeb Arizona lle gwelir y dot gwyn ar ochr dde'r llun, yn agos i Ynys Ford.

Mae Pearl Harbor yn harbwr ar ynys Oʻahu, Hawaii, i'r gorllewin o Honolulu. Mae rhannau helaeth o'r harbwr a'r ardal gerllaw yn ganolfan llyngesol dyfroedd dwfn Llynges yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn bencadlys i Lynges Cefnfor Tawel yr Unol Daleithiau Pan ymosodwyd ar Pearl Harbor gan Ymerodraeth Japan ar y 7fed o Ragfyr, 1941, daeth a'r Unol Daleithiau i mewn i'r Ail Ryfel Byd.

Hanes[golygu]

Lleoliad Pearl Harbor yn Hawaii

Yn wreiddiol, roedd Pearl Harbor yn amfae eang ond bâs o'r enw Wai Momi (sy'n golygu "harbwr y perl") neu Pu'uloa i drigolion Hawaii. Yn ôl chwedloniaeth Hawaii, ystyriwyd Pu'uloa fel cartref duwies y siarc a'i brawd (neu'i mab) Kahi'uka. Dethlir bywyd Keaunui, pennaeth y pŵerus yng ngogledd Hawaii. Dywedir iddo agor sianel yr oedd modd llywio ar ei hyd ger gweithfeydd halen Puuloa, lle gallai llongau'r dyfodol deithio ar ei hyd. Roedd yr harbwr yn orlawn o wystrys a gynhyrchai berlau tan diwedd y 1800au.

Yr ugeinfed ganrif[golygu]

Ym 1908, sefydlwyd Iard Llyngesol Pearl Harbor. Rhwng 1908 a 1919 tyfodd yr orsaf llyngesol, Pearl Harbor, yn barhaus o ran maint, ac eithrio pan gwympodd y doc sych ym 1913. Dechreuwyd gweithio ar y doc ar yr 21ain o Fedi, 1909 ond ar yr 17eg o Chwefror, 1913, cwympodd y doc yn ddarnau.

Wrth i luoedd arfog Japan frwydro yn Tsieina, dechreuodd yr Unol Daleithiau fynegi pryder am fwriadau Japan, a dechreuasant gymryd camau i amddiffyn eu hunain. Ar y 1af o Chwefror, 1933 penderfynodd Llynges yr Unol Daleithiau gynnal ymosodiad ffug ar y safle yn Pearl Harbor fel ymarfer paratoi. "Llwyddodd" yr ymosodiad ac ystyriwyd yr amddiffyn yn "fethiant".

Pan ymosodwyd ar Pearl Harbor yn annisgwyl gan Ymerodraeth Japan ar y 7fed o Ragfyr, 1941, daethpwyd a'r Unol Daleithiau i mewn i'r Ail Ryfel Byd.

Dydd Sul, 7 Rhagfyr, 1941[golygu]

USS Arizona (BB-39) yn suddo yn ystod yr ymosodiad

Dechreuodd awyrlu a llongau tanddwr bychain Llynges Ymerodraeth Japan ymosodiad ar yr Unol Daleithiau. Yn groes i'r gred gyffredin, nid oedd yr ymosodiadau hyn wedi dod fel syndod. Roedd yr Americanwyr wedi datrys côd Japan yn gynt, a gwyddent am ymosodiad arfaethedig cyn iddo ddigwydd. Fodd bynnag, yn sgîl trafferthion i ddatrys negeseuon eraill a ddanfonwyd gan Japan, methodd yr Unol Daleithiau ddarganfod beth yn union oedd targed Japan cyn iddynt ymosod.[1] O dan arweiniad y llyngesydd Isoroku Yamamoto, roedd yr ymosodiad yn drychinebus i'r Americanwyr o ran y colledion dynol a'r difrod i awyrlu'r Unol Daleithiau. Am 6.05y.b. ymosododd y don cyntaf o 183 o awyrennau. Bomwyr plymio, bomwyr llorweddol ac ymladdwyr oedd yr awyrennau'n bennaf.[2] Trawodd y Japaneaid longau ac offer milwrol am 7.51 y.b. I ddechrau, ymosododd y don gyntaf o awyrennau y meysydd awyr yn Ynys Ford. Am 8.30 y.b. ymosododd yr ail don o 170 o awyrennau Japaneaidd ar y fflyd a oedd wedi'u hangoru yn Pearl Harbor. Trawyd y llong frwydro Arizona gan fom a laniodd ar adran arfau blaen y llong. Achosodd hyn i'r llong ffrwydro'n ddarnau, gan suddo o fewn eiliadau. Yn gyfangwbl, suddwyd naw llong o fflyd yr Unol Daleithiau a difrodwyd 21 llong yn ddifrifol. Roedd tri o'r 21 wedi'u difrodi mor wael fel nad oedd modd eu trwsio. Bu farw 2,350 i gyd, gan gynnwys 68 o sifiliaid, ac anafwyd 1,178. O'r holl bersonél milwrol a fu farw yn Pearl Harbor, roedd 1,177 ohonynt ar fwrdd yr Arizona. Saethwyd y bwledi cyntaf gan USS Ward (DD-139) at long tanddwr bychan a ddaeth i wyneb y dŵr tu allan i Pearl Harbor; llwyddodd y Ward i suddo'r llong tanddŵr bychan am tua 6:55, tua awr cyn yr ymosodiad ar Pearl Harbor.

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Nash, Gary B., Julie Roy Jeffrey, John R. Howe, Peter J. Frederick, Allen F. Davis, Allan M. Winkler, Charlene Mires, and Carla Gardina Pestana. The American People, Concise Edition Creating a Nation and a Society, Combined Volume (6th Edition). New York: Longman, 2007.
  2. Hakim, Joy (1995). A History of Us: War, Peace and all that Jazz. New York: Oxford University Press. ISBN 0-19-509514-6.