Byddin yr Unol Daleithiau
Llu arfog Unol Daleithiau America gyda dyletswydd dros weithredoedd milwrol ar dir yw Byddin yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Army). Caiff ei rheoli gan Adran y Fyddin – rhan o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau – a bennir gan Ysgrifennydd y Fyddin. Creuwyd y Fyddin gan y Gyngres ar 3 Mehefin, 1784 yn dilyn diwedd Rhyfel Annibyniaeth America fel olynydd i'r Fyddin Gyfandirol a fu'n ymladd yn y rhyfel i ennill annibyniaeth.
Ers ei ffurfio yn swyddogol yn 1784 mae Byddin yr Unol Daleithiau wedi ymladd mewn sawl rhyfel, yn yr Unol Daleithiau ei hun (yn 19g) ac ar draws y byd. Cymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf a bu ganddi ran sylweddol yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn rhan olaf y rhyfel yn Ewrop ac yn theatr y Cefnfor Tawel yn erbyn Japan ar ôl i'r wlad honno ymosod ar Pearl Harbor a thynnu'r Unol Daleithiau i mewn i'r rhyfel. Bu ganddi ran amlwg hefyd yn Rhyfel Corea yn y 1950au ac yn Rhyfel Fietnam. Yn fwy diweddar, fel rhan o'r "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth", mae'r fyddin wedi cymryd rhan yn Rhyfel Irac, lle ceir tua 40,000 o filwyr ar y tir o hyd, ac yn Rhyfel Affganistan, lle mae'n ymladd â'r Taleban.[1]
Troseddau gan filwyr yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Abu Ghraib[golygu | golygu cod y dudalen]
Datguddiwyd yn 2004 fod milwyr Americanaidd yn camdrin carcharorion Iracaidd yn ngharchar Abu Ghraib, a fu cyn hynny yn garchar dan lywodraeth Saddam Hussein.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Loonwatch; sy'n rhoi tystiolaeth o'r fyddin yn cyflyru'i milwyr i gasau Islam; adalwyd 18 Tachwedd 2013