Nellie Melba
| Nellie Melba | |
|---|---|
| Ffugenw | Nellie Melba |
| Ganwyd | Helen Porter Mitchell 19 Mai 1861 Melbourne, Richmond |
| Bu farw | 23 Chwefror 1931 Sydney |
| Dinasyddiaeth | Awstralia |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr opera, hunangofiannydd |
| Arddull | opera |
| Math o lais | soprano leggero |
| Tad | David Mitchell |
| Mam | Isabella Ann Dow |
| Priod | Charles Nesbitt Frederick Armstrong |
| Plant | George Nesbitt Armstrong |
| Gwobr/au | Boneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Rol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched, Medal Aur Teilyngdod y Brenin |
| llofnod | |
Cantores opera soprano o Awstralia oedd y Fonesig Nellie Melba GBE (ganwyd Helen Porter Mitchell, 19 Mai 1861 – 23 Chwefror 1931). Daeth yn un o gantoresau enwocaf yn y byd tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Hi oedd y person cyntaf o Awstralia i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel cerddor clasurol. Cymerodd y ffugenw "Melba" o Melbourne, ei thref enedigol.
Astudiodd Melba ganu yn Melbourne a gwneud llwyddiant cymedrol mewn perfformiadau yno. Ar ôl briodas fer ac aflwyddiannus, symudodd i Ewrop ym 1886 i chwilio am yrfa ganu. Astudiodd ym Mharis ac yn fuan daeth yn llwyddiannus yno ac ym Mrwsel. Ym 1888 enillodd enw fel y soprano ysgafn flaenllaw yn Llundain yn y Opera Brenhinol Eidalaidd, Covent Garden. Fe wnaeth ei debut yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd ym 1893.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cododd Melba symiau mawr o arian ar gyfer elusennau rhyfel. Dychwelodd i Awstralia yn aml yn ystod yr 20g, gan ganu mewn opera a chyngherddau a dysgu canu ym Melbourne Conservatorium. Parhaodd i ganu tan fisoedd olaf ei bywyd a gwneud llawer o ymddangosiadau "ffarwel". Roedd ei hangladd yn ddigwyddiad cenedlaethol pwysig.
Mae ei henw yn gysylltiedig â phedair bwyd, a grëwyd pob un ohonynt er anrhydedd iddi gan y cogydd Ffrengig Auguste Escoffier:
- pwdin Melba - pwdin o eirin gwlanog, saws mafon ac hufen iâ fanila
- saws Melba - saws melys o fafon a cyrains cochion
- tost Melba - tost tenau crinsych
- garniture Melba - tomatos llenwi â chyw iâr, cloron a madarch, gyda saws velouté