Oren (ffrwyth)
| Oren | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Sapindales |
| Teulu: | Rutaceae |
| Genws: | Citrus |
| Rhywogaeth: | C. sinensis |
| Enw deuenwol | |
| C. sinensis (L.) Osbeck[1] | |
Ffrwyth sitrws bwytadwy yw'r oren neu'r oren melys (enw gwyddonol: Citrus × sinensis ) - enw a ddefnyddir i'w gwahaniaethu oddi wrth yr oren chwerw (Citrus × aurantium). Mae'n ffrwyth yn y teulu Rutaceae. Mae'n tyfu ar goeden fytholwyrdd mewn hinsawdd gynnes.[2] Yn fotanegol, mae'r oren yn hybrid Citrus × sinensis, rhwng dau rywogaeth: y pomelo (Citrus maxima) a'r oren mandarin (Citrus reticulata). Mae'n hybrid yn un hynafol, canlyniad croesiad a ddigwyddodd dros 4000 o flynyddoedd yn ôl rhwng y pomelo a'r mandarin; mae cyfrannau genynnau'r rhywogaeth hynafol heddiw tua 58% mandarin a 42% pomelo. Erbyn 2025 roedd genom llawn yr oren melys wedi cael ei ddilyniannu.
Mae'r goeden oren yn goeden ganolig ei maint, rhwng tair a phum metr o uchder, gyda choron gron a changhennau rheolaidd. Mae ganddi foncyff sengl, syth, silindrog, gwyrddlas ar y dechrau ac yna llwyd. Mae'r canghennau'n ymddangos tuag un metr o'r Ddaear. Mae'r dail yn fytholwyrdd, yn ganolig eu maint ac yn hirgul, gyda sylfaen gron a blaenau pigfain. Mae'r blodau'n ymddangos naill ai'n unigol neu mewn clystyrau.
Gellir lluosogi coed oren drwy egino'r had, drwy drawsblannu toriad, neu drwy haenu, hynny yw, drwy eu lluosogi o wreiddyn. Beth bynnag, rhaid iddynt dreulio peth amser mewn meithrinfa blanhigion cyn cael eu symud i'r berllan neu'r ardd.
Gall rhew ddinistrio'r ffrwyth a hyd yn oed y goeden ei hun. Felly, ni argymhellir ei drin uwchlaw 250 metr uwchben lefel y môr. Mae ansawdd y pridd hefyd yn bwysig; tywod silicaidd gyda rhywfaint o glai a chalch yw'r gorau. Mae cyfeiriadedd hefyd yn hanfodol; yn ddelfrydol, dylai'r goeden wynebu'r cyhydedd, hynny yw, gyda'i chefn at y polyn agosaf, i gael ei hamddiffyn rhag y gwyntoedd oer o'r cyfeiriad hwnnw ac i dderbyn mwy o olau haul.
Tyfu
[golygu | golygu cod]Mae'n ffynnu mewn hinsawdd tymherus a llaith. Mae tyfu'r rhywogaeth hon yn rhan bwysig o economi llawer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau (Florida a California), y rhan fwyaf o wledydd Môr y Canoldir, Brasil, Mecsico, yr Ariannin, Ecwador, Periw, Colombia, Belize, Ciwba, Pacistan, Tsieina, India, Iran, yr Aifft, Twrci, Wrwgwái, Catalwnia, Sbaen a De Affrica. Nid yw'n tyfu y tu allan yng Nghymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Germplasm Resources Information Network (GRIN) (Agricultural Research Service (ARS), United States Department of Agriculture (USDA))
- ↑ "Citrus sinensis". Prifysgol Arizona. Cyrchwyd 2025-09-12.