Coed-llai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Coed-llai (Saesneg: Leeswood). Saif ger y briffordd A5104, i'r de-ddwyrain o dref Yr Wyddgrug. Gerllaw mae Neuadd Pentrehobyn, tŷ sy'n dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif.

Yng nghyffiniau Coed-llai ceir pentrefi Pontybotgyn, Pontblyddyn a Choed-talon.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Does dim llawer o wybodaeth am hanes enw y pentref. Mae'r llyfr Leeswood Past and Present, 2005 yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am y pentref ac yn dangos cofnodion o'r hen enwau. Roedd y pentref yn ganolbwynt i Derfysg Yr Wyddgrug ym 1869. Yn ogystal â rheolwr y pyllau glo yn yr ardal, John Young o Durham, yn gwneud i bobl weithio am lai o gyflog, dywedodd na chaiff gweithwyr ddefnyddio'u Cymraeg wrth weithio. Roedd hyn yn ddigon i weithwyr Coed-llai a'r cyffiniau ddechrau terfysg yn erbyn eu triniaeth. Yn y deunawfed ganrif, bu'r barwniaid Wynne yn byw yn Neuadd Coed-llai. Gellir dilyn eu llinach yn ôl at Owain Glyndŵr, ac yn ogystal felly, hen Deynasoedd Cymru. Adeiladwyd Gatiau Gwynion Coed-llai gan y brodyr Davies o Wrecsam yn y ddeunawfed ganrif. Crefft y brodyr oedd haearn.

"Gatiau Gwynion Coed-llai yn Neuadd Coed-llai

Cynhelwyd Eisteddfod yno ym 1921, ac mae'r gadair yn cael ei chadw ym mynedfa'r ysgol gynradd.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y pentref mae'r ysgol gynradd, Ysgol Derwenfa.

Sillafiad yr Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer o sillafiadau gwahanol ar gael i'w gweld yng Nghoed-llai ac o'i chwmpas ond, yn ôl Geiriadur yr Academi a llyfrau eraill am enwau llefydd yng Nghymru, 'Coed-llai' ydyw'r sillafiad cywir.[1] Mae angen cyplysnod rhwng yr elfennau 'coed' a 'llai,' ac nid oes angen prif lythyren ar ddechrau'r gair 'llai'.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Coed-llai (pob oed) (2,135)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coed-llai) (323)
  
15.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coed-llai) (1282)
  
60%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Coed-llai) (286)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 809 [Leeswood].
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.