Cilcain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cilcain
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1667°N 3.2333°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000184 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ1765 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Hannah Blythyn (Llafur)
AS/au David Hanson (Llafur)

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Cilcain ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gorllewin o dref Yr Wyddgrug, ac ychydig i'r dwyrain o gopa Moel Llys-y-Coed, gyda Moel Famau i'r de-orllewin. Ceir yno eglwys, siop, tafarn, swyddfa'r post a neuadd y pentref.

Cofnodir yr eglwys gyntaf yn 1291. Ar un adeg roedd plwyf Cilcain yn cynnwys Cefn, Llan (neu Tre'r Llan), Llystynhunydd (neu Glust), Llys y Coed, Maes y Groes, Mechlas (neu Dolfechlas) a Trellyniau; erbyn hyn mae gryn dipyn yn llai.

Yr Hen Ysgol (1799), Cilcain.

Codwyd ysgol trwy danysgrifiad cyhoeddus yn y pentref yn 1799. Mae adeilad yr ysgol yn dŷ preifat erbyn heddiw. Cynhelir Gŵyl Cilcain yn flynyddol i hybu'r celfyddydau a diwylliant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw David Hanson (Llafur).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cilcain (pob oed) (1,378)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cilcain) (237)
  
17.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cilcain) (626)
  
45.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cilcain) (195)
  
34.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: