Neidio i'r cynnwys

Ffrith, Sir y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Ffrith
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0901°N 3.0691°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ285553 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUMark Tami (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfynydd, Sir y Fflint, Cymru, yw Ffrith[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ne'r sir, ar Afon Cegidog, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd a Wrecsam i'r de. Y pentref agosaf yw Llanfynydd, filltir i'r gogledd, a cheir Brymbo ychydig o filltiroedd i'r de. Rhed ffordd y B5101 trwy'r pentref. Daeth maint ac arwyddocâd y pentref yn fwy oherwydd glofeydd a chwareli yn ystod y 19eg ganrif, ac adeiladwyd Rheilffordd Wrecsam a’r Mwynglawdd. Caewyd y rheilffordd ym 1952.[3]

Mynycha plant iau'r pentref Ysgol Gynradd Terrig, Treuddyn.

Y pentref o'r bont reilffordd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 12 Ionawr 2022
  3. ↑ Cynllun datblygu lleol Sir y Fflint, Rhagfyr 2015[dolen farw]
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato