Ysgol Gynradd Terrig

Oddi ar Wicipedia

Ysgol gynradd Gymraeg yn Nhreuddyn ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Gynradd Terrig, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Daw'r plant i'r ysgol o Dreuddyn a phentrefi cyfagos megis Eryrys, Pontybodcyn a’r Ffrith. Roedd 77 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2000, a 69 yn 2006. Ychydig iawn o ddisgyblion a ddaw o gartrefi ble mae'r Gymraeg yn brif iaith.[1]

Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Maes Garmon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Adroddiad Arolygiad 2–4 Mai 2006. Estyn (4 Gorffennaf 2006).
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.