Chwitffordd
![]() Eglwys y Santes Fair a Beuno Sant yn Chwitffordd | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.3°W ![]() |
Cod SYG | W04000211 ![]() |
Cod OS | SJ142782 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
- Am enghreiftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar yr enw, gweler Whitford.
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Chwitffordd[1][2] ( ynganiad ) (Saesneg: Whitford). Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.
Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Domesday (1086) ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mercia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4][5]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd yr hynafiaethydd a naturiaethwr enwog Thomas Pennant ym mhlasdy Downing, ger y pentref, yn 1726. Ysgrifennodd Pennant gyfrol ar hanes a hynafiaethau Chwitffordd a'r cylch.
Pennant oedd un o'r awduron cyntaf i roi disgrifiad llawn o garreg Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar, sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Mae'r garreg yn dyddio'n ôl i'r 11g.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen (1992).
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Trefi
Bagillt ·
Bwcle ·
Caerwys ·
Cei Connah ·
Y Fflint ·
Queensferry ·
Saltney ·
Shotton ·
Treffynnon ·
Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·
Afon-wen ·
Babell ·
Bretton ·
Brychdyn ·
Brynffordd ·
Caergwrle ·
Carmel ·
Cefn-y-bedd ·
Cilcain ·
Coed-llai ·
Coed-talon ·
Cymau ·
Chwitffordd ·
Ewlo ·
Ffrith ·
Ffynnongroyw ·
Gorsedd ·
Gronant ·
Gwaenysgor ·
Gwernymynydd ·
Gwernaffield ·
Gwesbyr ·
Helygain ·
Higher Kinnerton ·
Yr Hôb ·
Licswm ·
Llanasa ·
Llaneurgain ·
Llanfynydd ·
Llannerch-y-môr ·
Maes-glas ·
Mancot ·
Mostyn ·
Mynydd Isa ·
Mynydd-y-Fflint ·
Nannerch ·
Nercwys ·
Neuadd Llaneurgain ·
Oakenholt ·
Pantasaph ·
Pant-y-mwyn ·
Penarlâg ·
Pentre Helygain ·
Pen-y-ffordd ·
Pontblyddyn ·
Pontybotgyn ·
Rhes-y-cae ·
Rhosesmor ·
Rhyd Talog ·
Rhyd-y-mwyn ·
Sandycroft ·
Sealand ·
Sychdyn ·
Talacre ·
Trelawnyd ·
Trelogan ·
Treuddyn ·
Ysgeifiog