Maen Achwyfan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Maen Achwyfan
Math safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru

Carreg gerfiedig hynafol yn Sir y Fflint, gogledd Cymru, yw Maen Achwyfan (cyfeiriad grid SJ129788).

Gorwedd y maen mewn cae agored tuag un milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Credir ei fod yn dyddio o tua dechrau'r 11g. Mae'n garreg 3.4 medr o uchder gyda disg gron ar ei phen a addurnir gan groes Geltaidd. Saif ar garreg sylfaen sydd wedi suddo dan y pridd erbyn heddiw. Mae'n debygol ei bod yn sefyll ar ei safle gwreiddiol o hyd.

Maen Achwyfan
Manylyn

Mae cryn dipyn o ddamcaniaethu wedi bod am darddiad y garreg hon. Credir yn gyffredinol ei bod yn arddangos dylanwad Llychlynaidd. Yn ogystal â'r cerfiadau "ysgrôl" ceir croes Geltaidd arall ar gorff y garreg. Ger ei gwaelod ceir dau ffigwr, un o ddyn yn dal gwaywffon a'r llall yn ddyn gyda ffon; mae'n bosibl eu bod yn cynrychioli rhyfelwyr o'r math a geir ar gofebion Sgandinafaidd. Ceir croesau carreg tebyg i Faen Achwyfan mewn pedwar lle arall ar arfordir gogledd Cymru, e.e. Diserth, tua 20 yng ngogledd-orllewin Lloegr, a dau yng Nghernyw, i gyd ger yr arfordir. Mae hyn yn awgrymu dylanwad Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd yn y parthau hyn ac mae'n bosibl felly mae crefftwr Sgandinafaidd a gerfiodd y garreg.

Yr hynafiaethydd lleol Thomas Pennant oedd y cyntaf i dynnu sylw pobl at Faen Achwyfan, yn ei lyfr Tours in Wales.

Mae Maen Achwyfan yn heneb gofrestredig sydd yng ngofal CADW.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Nancy Edwards, 'The Dark Ages', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991)