Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Oddi ar Wicipedia
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol, archifdy cenedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1908 Edit this on Wikidata
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFriends of the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif weithredwrChristopher Catling Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrLlywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolDigital Preservation Coalition Edit this on Wikidata
PencadlysLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCeredigion Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rcahmw.gov.uk, https://cbhc.gov.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gorff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sydd wedi'i leoli yn Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i sefydlwyd yn 1908 gyda'r amcan o warchod a chadw Rhestr Henebion Cenedlaethol Cymru.

Mae eu gwaith yn cynnwys y meysydd archaeoleg, pensaernïaeth a diwylliant Cymru, a darparu gwybodaeth gyhoeddus drwy ei archifau a'u cyhoeddiadau helaeth. Mae eu harbenigwyr, hefyd yn cynnig cyngor i'r cyhoedd. Mae eu cronfa ddata'n cynnwys cynlluniau, ffotograffau a disgrifiadau o dros 80,000 o safleoedd ac adeiladau ac olion ar fôr ac ar dir. Mae gan y Comisiwn dros 1.5 miliwn o ffotograffau, sy'n ei wneud yr archif mwyaf o'i fath yng Nghymru.[1]

Mae'r corff yn rhannu ychydig o'u gwybodaeth drwy eu gwefan "Coflein".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; adalwyd 14 Ebrill 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-31. Cyrchwyd 2012-04-14.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.