Talaith Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, gyda choron yn eistedd o dan ei arfau brenhinol. Mae'n beintiad sy'n coffáu Llywelyn yn talu gwrogaeth i Harri III, brenin Lloegr ym 1267.

Crair wedi'i golli bellach ydy Coron Llywelyn (neu Talaith Llywelyn). Cofnodir mai mynachod Abaty Cymer ger Dolgellau oedd gwarchodwyr y creiriau brenhinol megis Y Groes Naid ers cychwyn rhyfel 1282. Lladdwyd Llywelyn yn Rhagfyr y flwyddyn honno a chredir i'r creiriau brenhinol ac eglwysig gael eu cymryd i Abaty San Steffan, Lundain yn symbol o oruchafiaeth y Saeson dros Gymru "unwaith ac am byth".[1] Yno, fe'i gosodwyd ar gofeb Edward y Cyffeswr.

Dyluniad allan o Arfau Cymru" gan Lewys Dwnn sy'n dangos Coron y Genedl. Mae'n ymddangos mai coron fechan ydoedd ac un wahanol iawn i'r arfer. Mae'n ddigon posib mai dyma goron Llywelyn a ddygwyd yn 1283 gan Edward I.

Ymhlith y trysorau hyn a ddygwyd roedd coron o'r enw "Coron Arthur" a ellir ei olrhain o leiaf yn ôl i oes Owain Gwynedd (1137–1171).

Hanes y goron[golygu | golygu cod]

Mae hanes sut y cafodd Llywelyn y goron yn ansicr a niwlog. Dywed rhai ffynonellau i Harri III, brenin Lloegr gyflwyno goron fechan i Ddafydd ap Llywelyn (mab Llywelyn Fawr a Siwan pan gafodd ei goroni yn 1240 yn Dywysog Gwynedd.[2] Ond yn ôl yr hanesydd R. R. Davies roedd gan Ddafydd goron yn barod pan gyfarfu â Harri cyn y coroni.[3]

He (Edward) appropriated the most valuable and potent symbols of Welsh princely independence - Llywelyn's coronet, the matrix of his seal, the jewels and crown of Arthur, and above all the most cherished relic in Wales, the piece of the true cross known as Y Groes Naid (just as he removed the Stone of Scone from Scotland in 1296).
R.R. Davies[3]

Byr iawn oedd teyrnasiad Dafydd (brawd Llywelyn II) a bu farw ychydig wedi'i frawd, heb fedru hawlio'n ôl creiriau gwerthfawr y genedl.

Diflaniad y Goron[golygu | golygu cod]

Ar allor Edward y Cyffeswr yn Abaty San Steffan y bu'r Goron tan 1303 pan dygwyd hwy drachefn i Dŵr Llundain. Credir gan rai iddyn (ynghyd â hen greiriau Lloegr) gael eu toddi ym 1649 drwy orchymyn Oliver Cromwell. Fodd bynnag ni chyfeirir at greiriau Cymru na Choron Llywelyn yn y llyfr stoc a sgwennwyd yn y fan a'r lle.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wales: History 1066 to 1485 (Erthygl allan o wyddoniadur Hutchinson)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-24. Cyrchwyd 2013-10-04.
  2. Smith, J. Beverly (2001). Llywelyn ap Gruffudd: Prince of Wales. Wales: University of Wales Press. t. 664 Pages. ISBN 0-7083-1474-0.
  3. 3.0 3.1 Davies, R.R. (2000). The Age of Conquest: Wales, 1063-1415 . USA: Oxford University Press. t. 544 pages. ISBN 0-19-820878-2. R. R. Davies was Chichele Professor of Medieval History at All Souls College, Oxford; Chairman of the Modern History Faculty, University of Oxford; and a former President of the Royal Historical Society.