Trawst Sycharth

Oddi ar Wicipedia
Y man lle safai Sycharth heddiw.

Trawst a honnwyd ei bod o dŷ Owain Glyndŵr yw Trawst Sycharth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn 1891, gwagwyd ffos yn Sycharth, ac wrth ei ddraenio darganfuwyd trawst yn mesur 21 troedfedd ynddo.[1]

Yn 1927 cysylltodd Edward Hughes o Wrecsam â phennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyril Fox. Dywedodd fod trawst derw wedi'i ddarganfod wrth wagio ffos Sycharth. Symudwyd y trawst i Neuadd Llangedwyn gan Ms Williams-Wynn Sycharth.

Yn 1924 gofynnodd Mr Hughes i ddefnyddio’r trawst yn Neuadd Goffa Llansilin. Llifiwyd darn oddi arno a roddwyd i'r amgueddfa.

Arddangoswyd y trawst yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Does dim rhan o'r pren wedi llosgi ac mae mortis sylweddol yn un ochr.

Blynyddoedd ar ôl codi Neuadd Llansilin, tynnwyd trawst Sycharth oherwydd pydredd, a'i roi mewn sgip. Achubwyd y trawst gan Dick Hughes a’i rhoi yn ôl i’r Neuadd blynyddoedd yn ddiweddarach. Mae gweddillion y trawst mewn cas gwydr, sydd nawr ond yn 75cm o hyd.

Er mwyn gwirio oed y pren i'w gysylltu a Sycharth, bydd angen dyddio gyda dendrocronoleg. Mae amheuon ynglyn a'r posibilirwydd o wneud hyn gyda'r pren.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "OwainGlyndwr - Y Trawst Sycharth". www.owain-glyndwr.cymru. Cyrchwyd 2023-10-26.
  2. "Owain Glyndŵr a thrawst Sycharth". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-10-26.