Croes Cynfelin
Croes eglwysig o'r 10g ac a gerfiwyd o garreg ydy Croes Cynfelin (Hen Gymraeg: Conbelin), (hefyd: Croes Margam) a saif ar safle Abaty Margam, Castell-nedd Port Talbot; cyfeiriad grid SS801864. Cofrestwyd yr heneb hon gan Cadw gyda rhif SAM: GM011.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r llun yn dangos y copi ohoni a wnaed gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ar waelod y groes Geltaidd hon ceir golygfa hela, gyda ffigyrau o'r Forwyn Fair a Sant Ioan ar y naill ochr a'r llall i'r groes. Mae'r arysgrif yn enwi Conbelin (sef Cynfelyn) fel y rhoddwr: "CONBELIN P[O]SUIT HANC CRUCM P[RO] [A]NIMA RI[C]" Hynny yw, 'Cododd Cynfelin y groes hon ar gyfer enaid Ric...'. Ceir sant o'r enw Cynfelyn ond ceir enghraifftiau eraill o'r enw hefyd ac felly nid oes modd gwybod pa Gynfelin oedd y rhoddwr.
Mae'r garreg hon i'w gweld heddiw yn Amgueddfa Gerrig Margam.