Abaty Margam
| Math | mynachlog, abaty |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Margam |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.56238°N 3.729888°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | GM005 |
Abaty Sistersiaidd oedd Abaty Margam, sydd wedi ei leoli ym Margam ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr abaty yn 1147 fel tŷ cangen o Abaty Clairvaux gan Robert, Iarll Caerloyw, a chysegrwyd hi i'r Santes Fair. Daeth yn noddfa bwysig i feirdd Morgannwg, yn enwedig yng nghyfnod yr Abad Dafydd ap Tomas (1500-1517). Diddymwyd yr abaty gan Harri VIII, brenin Lloegr, yn 1536, ac fe'i gwerthwyd i Syr Rice Mansel. O'r teulu Mansel, disgynodd yr eiddo i lawr y llinell benywaidd gan ddod i berchnogaeth y teulu Talbot. yn y 19g, adeiladodd C R M Talbot blasdy Castell Margam sydd yn edrych i lawr ar adfeilion yr abaty.

Heddiw
[golygu | golygu cod]Mae Abaty Margam erbyn heddiw yn adfail heblaw corff y capel, sydd yn dal yn gyfan. Mae corff capel yr abaty yn dal i gael ei ddefnyddio fel capel plwyf hyd heddiw. Mae'r adfeilion sydd ddim yn perthyn i'r capel, yn perthyn i'r cyngor. Mae'r adfeilion yn cynnwys cabidyldy anarferol o fawr sy'n dyddio o'r 13g, ac yn sefyll o fewn 840 erw Ystad Wledig Margam ger Castell Margam. Ar y bryn uwchben yr abaty, mae adfeilion mynachdy Capel Mair ar y Bryn; ar un adeg roedd 12 mynach yn byw yno.
