Dafydd ap Tomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dafydd ap Tomas
Ganwyd 15G Edit this on Wikidata
Bu farw 1517 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth abad Edit this on Wikidata

Abad Margam, Morgannwg oedd Dafydd ap Tomas (bu farw 1517). Roedd yn enwog yn ei ddydd fel un o brif noddwyr y beirdd ym Morgannwg.

Llinach[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl yr achau a roddir gan y bardd Dafydd Benwyn, roedd yr Abad Dafydd yn fab i Tomas ap Hywel ap Ieuan ap Siancyn ap Rhys Fychan, un o hynafiaid y bardd Rhys Brydydd, ac felly'n perthyn i benceirddiaid Tir Iarll ac i linach Einion ap Collwyn. Ei fam oedd Madrun, merch Siôn Stradling o'r Merthyr Mawr, yn ôl pob tebyg.[1]

Noddwr i'r beirdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod abadaeth Dafydd roedd Abaty Margam yn enwog am ei groeso i'r beirdd, parhad o draddodiad o nawdd sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Daeth Dafydd yn abad ym Margam yn 1500 a pharhaodd yn y swydd hyd 1517, pan fu farw, yn ôl pob tebyg. Deuai beirdd o bob rhan o Forgannwg i'w lys. Roedd y beirdd hynny yn cynnwys ei geraint Rhisiart ap Rhys, mab Rhys Brydydd ac athro barddol Iorwerth Fynglwyd, a Siôn ap Hywel Gwyn.[2]

Ffugiadau Iolo Morganwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yr Abad Dafydd yn rhan o Forgannwg chwedlonol Iolo Morganwg. Fe'i gwnaeth yn fardd ganddo ac yn awdur llyfr gramadeg y beirdd a wnaeth "dan olwg Cadair a Gorsedd Beirdd Tir Iarll". Arno ef hefyd y tadogir cyfres o 'Drioedd Prydyddiaeth Beirdd Tir Iarll'. Gwyddys nad oes sail i ffugiadau Iolo.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 54.
  2. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 56, 61.