Neidio i'r cynnwys

Lwnwla Llanllyfni

Oddi ar Wicipedia
Lwnwla Llanllyfni
Enghraifft o:lunula Edit this on Wikidata
CrëwrOrdoficiaid Edit this on Wikidata
Deunyddaur Edit this on Wikidata
Màs185.4 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2200 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Lwnwla Llanllyfni yn lwnwla aur, a ddarganfuwyd yn Llanllyfni, Gwynedd, Cymru ond yn berchen i'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, Lloegr. Ystyr y gair Lladin 'lanula' yw 'lleuad bychan', ac fe'i gwisgwyd fel tlws neu dorch Geltaidd o amgylch y gwddf. Mae'n dyddio o 2400CC-2000CC - cyn y Rhufeiniaid.

Mae'r lwnwla wedi'i wneud o aur addurnedig ac wedi'i ddyddio i 2200-2000 CC ac mae'n un o'r addurniadau aur cynharaf o Gymru.[1] Mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu 2400-2000 CC o'r Oes Neolithig Ddiweddar neu'r Oes Efydd Cynnar.[2] Y lwnwla yw'r lwnwla trymaf o ynysoedd Prydain ac Iwerddon, gan bwyso 185g. [3]

Mae'n debyg mai darn seremonïol ydoedd. Mae lwnwlas yn ddarganfyddiadau cyffredin yn Iwerddon ac mae tystiolaeth ymchwil yn awgrymu bod llu o lwnwlas Gwyddelig wedi eu gwneud o aur o Gernyw. Mae'r addurniadau ar lwnwla Llanllyfni yn debyg i addurn llawer o lestri crochenwaith Bicer o Gymru. Ceir tri math o lwnwla yn ôl archeolegwyr: lwnwla clasurol, lwnwla anorffenedig, a lwnwla taleithiol (classical, unaccomplished, provincial). Lwnwla o'r math 'taleithiol' yw hwn.[1]

Daethpwyd o hyd i’r lwnwla mewn cors ar fferm Llecheiddior-uchaf ger Dolbenmaen tua 1869. Sylwodd ffermwr ar yr hyn yr oedd yn ei feddwl oedd yn ddeilen lawryf felen yn ymddangos o'r mawn. Yn anfodlon ar ei esboniad ei hun, dychwelodd yn ddiweddarach a dadorchuddio'r lwnwla yn llawn.[3][4]

Cafodd yr amgueddfa Brydeinig y lwnwla yn 1869 ar ôl ei brynu gan Griffith H Owen.[2] Roedd ar fenthyg i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd hyd 2014,[5][2] ac yna eto i Amgueddfa Werin Cymru o 2018 ymlaen.[2]

Lladrad

[golygu | golygu cod]

Ar 6ed Hydref 2025, cafodd y lwnwla ei dwyn o arddangosfa Amgueddfa Werin Cymru, ac nid yw'n hysbys beth sydd wedi digwydd iddi (Tachwedd 2025)[6].

Dychwelyd i Gymru

[golygu | golygu cod]

Mae galwadau wedi bod i ddychwelyd arteffactau Cymreig yn ôl i Gymru o amgueddfeydd Lloegr. Mae Lwnwla Llanllyfni ymhlith arteffactau Cymreig nodedig sydd dan berchnogaeth yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, Lloegr.[7]

Hanes arddangos

[golygu | golygu cod]
  • Mehefin 2018 - Hydref 2025, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd, ar fenthyciad hirdymor Making History[2]
  • 1979 - 2014, Caerdydd, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Gwreiddiau - Canfod y Gymru Gynnar, benthyciad hirdymor[2]
  • 25 Gorff-5 Medi 1964, Abertawe, Oriel Gelf Glynn Vivian, Celf yng Nghymru[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Early Bronze Age gold lunula". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 "lunula". britishmuseum.org.
  3. 3.0 3.1 "Gold object of the week No. 2". National Museums Scotland (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
  4. "Stunning gold relic unearthed in Gwynedd". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
  5. "'Darn cyfoes ond hen thema'" (yn Saesneg). 2007-05-18. Cyrchwyd 2025-11-10.
  6. "Galw am gymorth i ddod o hyd i drysorau a gafodd eu dwyn o Amgueddfa Sain Ffagan". newyddion.s4c.cymru. 2025-11-10. Cyrchwyd 2025-11-10.
  7. "Buried treasure: calls for important Welsh artefacts to be brought back home". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-09-25. Cyrchwyd 2023-01-17.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]