Iestyn Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iestyn Jones
Ganwyd Awst 1963 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Man preswyl Llanfihangel y Creuddyn Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth archeolegydd Edit this on Wikidata
Priod Eiry Thomas Edit this on Wikidata

Actor ac archeolegydd o Gymro yw Dr Iestyn Jones (ganwyd Awst 1963).

Ganwyd Iestyn ab Owen Jones yn Aberystwyth, Ceredigion yn Awst 1963 a chafodd ei fagu ym mhentref Llanfihangel-y-Creuddyn. Wedi actio yn y theatr, y teledu a'r radio am nifer o flynyddoedd, mae e bellach yn archeolegydd wrth ei alwedigaeth, wedi iddo gael gradd a doethuriaeth yn y maes o Brifysgol Cymru yn 2011.

Cyflwynodd y gyfres archaeoleg Olion: palu am hanes ar S4C yn 2014. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Trisgell.[1]

Mae'n awdur y llyfr The use of Social Space in Early Medieval Irish Houses with Particular Reference to Ulster (BAR British Series 564; 2012) a'r papur Ulster's Early Medieval Houses yn y cyhoeddiad Medieval Archaeology 57, 2013 (tt. 212-222).

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n byw yng Nghaerdydd, yn briod a'r actores Eiry Thomas ac yn dad i ddau o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Darganfod olion teml Rufeinig yn Nyffryn Conwy. S4C (15 Awst 2013). Adalwyd ar 23 Mawrth 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]