Edward y Cyffeswr

Oddi ar Wicipedia
Edward y Cyffeswr
GanwydIslip Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1066 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • The King's School Ely Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Ionawr Edit this on Wikidata
TadEthelred yr Amharod Edit this on Wikidata
MamEmma o Normandi Edit this on Wikidata
PriodEdith o Wessex Edit this on Wikidata
PerthnasauRobert I, Wiliam I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
LlinachTeyrnas Wessex Edit this on Wikidata

Brenin olaf Wessex a brenin Eingl-Sacsonaidd olaf ond un Teyrnas Lloegr oedd Sant Edward y Cyffeswr (tua 10035 Ionawr 1066). Yn fab i Ethelred yr Amharod, rheolodd Loegr o 1042 hyd ei farwolaeth. Nodweddir ei deyrnasiad gan ddadfaeliad parhaol y grym brenhinol yn Lloegr a chynnydd yng ngrym yr ieirll, a arweiniodd at gwncwest Lloegr gan Normandi, pan gymerodd Gwilym Goncwerwr drosodd yn lle Harold Godwinson ac Edgar Ætheling, olynwyr ymgecrus Edward, fel brenin Lloegr.

Olynodd Edward ei hanner-frawd Harthacanute, a ailgipiodd Coron Lloegr ar ôl cael ei ddiorseddu gan ei hanner-frawd yntau, Harold Sgwarnogdroed (Harold Harefoot). Roedd Edward a'i frawd Alfred Ætheling, feibion Emma o Normandi gan Ethelred yr Amharod, wedi methu cyn hynny i ddiorseddu Harold yn 1036. Pan fu farw Edward yn 1066 doedd ganddo ddim mab i'w olynu ac arweiniodd hynny at wrthdaro rhwng tri gŵr a hawliai'r orsedd, sef Gwilym Iarll Normandi, Harold Godwinson ac Edgar Ætheling.

Can mlynedd bron ar ôl ei farwolaeth, canoneiddwyd Edward yn 1161 gan y Pab Alecsander III, a dethlir ei ŵyl ar y 13eg o Hydref gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Eglwys Loegr a rhai eglwysi Anglicanaidd eraill. Fe'i ystyrir yn nawddsant brenhinoedd, priodasau mewn helynt, a pobl wedi ysgaru. O deyrnasiad Harri II, brenin Lloegr, hyd 1348 roedd yn cael ei arddel fel nawddsant Lloegr, pan fabwysiadwyd San Siôr yn ei le, ac mae'n aros yn nawddsant teulu brenhinol Lloegr. Cafodd ei gladdu yn Abaty Westminster.

Mae eglwys wedi'i chysegru i Edward y Cyffeswr ym Mhen-y-lan (plwyf y Rhath), Caerdydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 300.CS1 maint: ref=harv (link)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.