Gwaywffon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun picellwyr allan o Peniarth 482D a wnaed yn niwedd y 15g. Cedwir y llawysgrif wreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Adluniadau modern o waywffyn Ewropeaidd, gyda'r llafn o ddur a'r ffon hir o onnen.

Arf hirfain, blaenllym a ddefnyddir i drywanu person mewn brwydr yw gwaywffon (hefyd: gwayw neu bicell). Mae iddi ddwy ran: y llafn garreg neu fetal a'r ffon hir a luniwyd o bren yn gyntaf, ac yna o fetal. Gall y waywffon fod yn un i'w thaflu drwy'r awyr, neu'n fath trymach i'w chario yn y dwylo. Defnyddid fflint yn llaf i'r hen waywffyn, ac mae'r hynaf yn dyddio i o leiaf 400,000 cyn y presennol (CP).[1] Ystyrir y bidog yn ddatblygiad naturiol i'r waywffon, ac sy'n parhau i gael ei ddefnyddio heddiw gan filwyr ar flaen gwn.

Caiff y gair "gwayw" ei ddefnyddio'n drosiadol ar adegau e.e. 'gwayw' am 'boen' neu 'ing' neu‘n ffigurol am arwr neu arweinydd; yr hen air am cricymalau oedd 'gwayw cymalau'.

Mae tystiolaeth archaeolegol diweddar yn awgrymu fod yr Homo heidelbergensis yn defnyddio gwaywffyn 500,000 CP.[2] Roedd y Dyn Neanderthal yn creu llafnau gwywffyn 300,000 CP, ac erbyn 250,000 CP roedd yn caledu'r llafn drwy ddefnyddio gwres uchel.

Tarddiad a chyfystyron[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofnodwyd y gair "gwaywffon" am y tro cyntaf fel gair cyfansawdd 'gwayw' a 'ffon' yng ngeiriadur Salesbury yn 1547, ond mae'r gair 'gwayw' yn llawer hŷn; fe'i cofnodwyd yn Llyfr Du Caerfyrddin yn y 13g: Seith guaew ny ochel in eu seithran. Yr hen ynganiad oedd: gwoew.

Ymhlith yr hen enwau arni y mae: glaif, gwayw, mehyr/myhyr, ongyr, pâr, rhôn, saffwy ac ysbâr, ond "gwayw" yw‘r prif derm am waywffon yng ngherddi‘r Hengerdd a cherddi Beirdd y Tywysogion.[3]

Gwelir fod tarddiad y gair yn gyffredin, rhwng yr ieithoedd Celtaidd:

Hen Gernyweg: wuyu
Hen Lydaweg: goiuou
Hen Wyddeleg: gáe
Hen Gymraeg: guoïu (gwoyw)
Galeg ( iaith y Celtiaid tebyg i'r Frythoneg): gaeso

Mathau gwahanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaywffon dafl[golygu | golygu cod y dudalen]

Awgrymodd Ifor Williams wrth drafod llinell o Ganu Llywarch Hen, fod "pâr" yn waywffon dafl, sef gwaywffon ysgafn i'w thaflu; mae'n cyfeirio at y disgrifiad o Gulhwch yn cludo deu par aryanhyeit lliueit yn y law, ac at yr arfau mae Lleu a Gronwy yn eu taflu at ei gilydd ym Mhedair Cainc y Mabinogi.[3]

'Glaif' y marchog[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Historia Gruffud vab Kenan, gelwid gwaywffon lonydd, a gludwyd gan farchog yn "glaif", sonir yno mai'r 'glaif' oedd arf y marchogfilwr o Fôn a ymosododd ar Ruffudd ap Cynan ym mrwydr Bron yr Erw. Ceir dwy linell mewn englyn strae o Lyfr Coch Hergest:

I'm naf a garaf, a fedr gwyriaw—glaif
Ac a saif heb syrthiaw.

Yma, mae'r gair 'gwyro' yn disgrifio'r glaif (lance yn Saesneg) yn plygu neu'n gostwng ei waywffon ar y funud olaf wrth ruthro ar ei farch tuag at ei elyn.

Ac yn 'Rhamant Otuel' dywedir: gostwg y waew a'i ossot yghyueir yr iarll a chymell y uarch.

Mew cerdd fawl i Rodri ab Owain Gwynedd (Prydydd y Moch) dywedir:

Deucan wayw terrwyn torres—bâr dygrwn
Pan ysgwn esgores

sy'n cyfeirio at yr arwr yn torri gwyawffyn ei elynion. Yn amlach na pheidio gwawffon glaif y marchog fyddai'n torri (torres), gan fod y grym yn y trawiad gryn dipyn mwy na thrawiad gwŷr traed.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lower Palaeolithic hunting spears from Germany. Hartmut Thieme. Letters to Nature. Nature 385, 807 – 810 (27 Chwefror 1997); doi:10.1038/385807a0 [1]
  2. Monte Morin, "Stone-tipped spear may have much earlier origin", Los Angeles Times, Tachwedd 2012
  3. 3.0 3.1 Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010. Adalwyd 07 Rhagfyr 2015
  • Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion; papur gan Jennifer Penelope Day