Homo heidelbergensis

Oddi ar Wicipedia
Homo heidelbergensis
Amrediad amseryddol: 0.6–0.3 Miliwn o fl. CP
Pleistosen Canol
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Homininae
Llwyth: Hominini
Is-lwyth: Hominina
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. heidelbergensis
Enw deuenwol
Homo heidelbergensis
Schoetensack, 1908

Rhywogaeth a arferai fyw yn Ewrop, Affrica a gorllewin Asia oedd Homo heidelbergensis – a elwir weithiau'n Homo rhodesiensis. Mae Homo heidelbergensis yn rhywogaeth o'r genws Homo a oedd yn byw rhwng 600 a 200 mil o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Roedd ei ymennydd oddeutu'r un maint ag ymennydd yr Homo sapiens modern. Canfyddwyd y rhywogaeth hon am y tro cyntaf yn Heidelberg yn yr Almaen yn 1907, ac fe'i disgrifiwyd gan Otto Schoetensack; ef hefyd fathodd yr enw.[1][2][3]

Ail-greu darlun o Homo heidelbergensis allan o'r ffosil o benglog a ddarganfyddwyd.

Mae Dyn Neanderthal, Denisovan a bodau dynol modern (H. s. sapiens) i gyd yn tarddu o H. heidelbergensis. Rhwng 300,000 a 400,000 o flynyddoedd CP, gwahanodd grŵp o H. heidelbergensis yn grŵp annibynnol o'r gweddill cyn gynted ag y gadawodd Affrica. Trodd rhai i gyfeiriad Ewrop a Gorllewin Asia gan esblygu yn nes ymlaen yn Neandertaliaid. Trodd grŵp arall tua'r dwyrain, i gyfeiriad Asia, gan esblygu ymhen hir a hwyr yn Denisovaid. Esblygodd H. heidelbergensis yn H. sapiens tua 130,000 CP.[4][5]

Morffoleg[golygu | golygu cod]

O astudio'r esgyrn, credir fod H. antecessor a H. heidelbergensis yn tarddu o linach yr Homo ergaster o Affrica. Mae'r ffaith fod gan H. heidelbergensis ymennydd gyda chyfaint o1100–1400 cm³ (o'i gymharu gyda'r ymennyd modern: 1350 cm³) yn peri i baleoanthropolegion gredu fod ganddo allu i drin offer llaw ac ymddygiad cymdeithasol eitha datblygedig. Oherwydd hyn, rhoddwyd iddo ddosbarthiad tacsonomegol ei hun: rhywogaeth unigryw ei hun.

Roedd taldra gwryw y rhywogaeth Homo heidelbergensis oddeutu 1.75 m (5 tr 9 modf) a phwysent 62 kg (136 pwys); taldra cymharol y fenyw oedd 1.57 m (5 tr 2 modf) a 51 kg (112 pwys).[6] Roeddent felly ychydig talach na'r dyn Neanderthal.[7] Yn ôl Lee R. Berger roedd rhai ohonynt cyn daled a 2.13 m (7 tr) - sef yr Homo heidelbergensis a drigai yn Ne Affrica rhwng 500,000 a 300,000 CP.[8][9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Homo heidelbergensis". Natural History Museum, Llundain. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
  2. "Homo heidelbergensis : Evolutionary Tree information". Smithsonian National Museum of Natural History. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
  3. Mounier, Aurélien; Marchal, François; Condemi, Silvana (2009). "Is 'Homo heidelbergensis' a distinct species? New insight on the Mauer mandible". Journal of Human Evolution 56 (3): 219–46. doi:10.1016/j.jhevol.2008.12.006. PMID 19249816.
  4. "Homo heidelbergensis - Comparison of Neanderthal and modern human DNA suggests that the two lineages diverged from a common ancestor, most likely Homo heidelbergensis". Smithsonian Institution. Cyrchwyd 29 Hydref 2015.
  5. "Denisovans, Neandertals, Archaics as Human Races - Anthropology can now confidently report that Neandertals, Denisovans, and others labelled archaic are in fact an interbreeding part of the modern human lineage. We are the same species.". Living Anthropologically. Cyrchwyd 29 Hydref 2015.
  6. "Evolution of Modern Humans: Homo heidelbergensis". Behavioral Sciences Department, Palomar College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-09. Cyrchwyd December 2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. Carretero, José-Miguel; Rodríguez, Laura; García-González, Rebeca; Arsuaga, Juan-Luis; Gómez-Olivencia, Asier; Lorenzo, Carlos; Bonmatí, Alejandro; Gracia, Ana et al. (2012). "Stature estimation from complete long bones in the Middle Pleistocene humans from the Sima de los Huesos, Sierra de Atapuerca (Spain)". Journal of Human Evolution 62 (2): 242–55. doi:10.1016/j.jhevol.2011.11.004. PMID 22196156. Lay summary – ScienceDaily (6 Mehefin 2012).
  8. Burger, Lee (Tachwedd 2007). "Our Story: Human Ancestor Fossils". The Naked Scientists.
  9. "Homo heidelbergensis essay". Institute of Human Origins. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-29. Cyrchwyd 29 Hydref 2015.