Paleoanthropoleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arddangosfa o ffosiliau Hominid yn yr 'Amueddfa Osteoleg yn Ninas Oklahoma, UDA.

Mae Paleoanthropoleg (Saesneg: Paleoanthropology; o'r Hen Roeg: παλαιός (palaeos) "hen, hynafol", ἄνθρωπος (anthrōpos) "dyn, dynol" a'r ôl-ddodiad λογία (logia) "astudiaeth"), yn is-ddisgyblaeth (ac yn gyfuniad) o Paleontoleg ac anthropoleg ffisegol, ac yn astudiaeth o sut y ffurfiodd a sut y datblygodd nodweddion dynol. Mae'r maes yn cynnwys ail-greu llinell esblygiad y teulu Hominidae a'r berthynas rhyngddynt drwy astudio ffosiliau megis hen esgyrn, ysgerbydau, olion traed a thystiolaeth debyg o'r Hominidae: cartrefi, arteffactau, offer-llaw carreg ayb.[1][2][3]

Fel y mae technoleg yn datblygu, mae geneteg yn dod yn bwysicach oddi fewn i'r maes hwn, yn enwedig i gymharu strwythurau DNA, ac fel arf ymchwil i berthynas y gwahanol rywogaethau a genera.

Tacsonomeg yr Hominoidau[golygu | golygu cod y dudalen]

Uwchdeulu o brimatau yw'r Hominidau sy'n cynnwys llinach yr epaod mawr (neu "epa Affricanaidd") a llinach bodau dynol. Mae'r term "epa Affricanaidd" yn cyfeirio'n unig at y tsimpansî a'r gorila.[4] Ceir cryn anghytundeb rhwng anthropolegwyr ynglŷn â phwy sy'n perthyn i bwy a sut. Mae'r term "hominin" yn cyfeirio at unrhyw genws o fewn y llwyth dynol (Hominini); dyn modern (H. Sapien sapien) yw'r unig un sy'n dal yn fyw heddiw.[5][6]


 
 
 
 
Is-urdd Hominoidae
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Teulu Hominidau
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Isdeulu Homininau
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llwyth Gorillini
 
 
 
 
 
Llwyth Hominini
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Genws Ardipithecus
 
Genws Australopithecus
 
Genws Paranthropus
 
Genws Kenyanthropus
 
Genws Homo
 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]