Paranthropus

Oddi ar Wicipedia
Paranthropus
"Yr Australopithecines Cadarn"
Amrediad amseryddol: Plïosen-Pleistosen, 2.7–1.2 Miliwn o fl. CP
Penglog Paranthropus boisei
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primatau
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Homininae
Llwyth: Hominini
Is-lwyth: Australopithecina
Genws: Paranthropus
Broom, 1938
Rhywogaethau

Paranthropus aethiopicus
Paranthropus boisei
Paranthropus robustus

Genws o Homininau yw Paranthropus (o'r groeg παρα, para "ymyl"; άνθρωπος, ánthropos "dynol"), genws sydd wedi ei ddifodi bellach. Gelwir y genws hwn hefyd yn Australopithecines Cadarn, ac yn ôl pob tebyg mae aelodau'r genws yn ddisgynyddion yr hominidau gracile australopithecine (Australopithecus) gyda'r esgblygiad o'r naill i'r llall yn digwydd tua 2.7 miliwn o flynyddoedd yn ôl (neu CP).[1]

Nodweddir aelodau'r genws hwn (fel yr awgryma'r enw) gan ên a rhannau deinyddol y benglog sy'n fwy na'r arfer. Mae'r rhannau hyn yn cynnwys y grib saethol (sagittal cranial crest), tebyg i'r gorila, ac yn awgrymu fod ganddo gyhyrau llydan i gnoi ei fwyd llysieuol. Ond dyn wahanol i'r gorila, mae'r grib saethol traws (transverse cranial crests) ar goll.

Darganuwyd rhan o graniwm a gên isaf Paranthropus robustus yn 1938 gan fachgen ysgol o'r enw Gert Terblanche, yn Kromdraai B (70 km i'r de-orllewin o Pretoria) yn Ne Affrica. Fe'i disgrifiwyd fel genws a rhywogaeth newydd sbon gan Robert Broom o Amgueddfa'r Transvaal. Cloddiwyd y safle ers 1993 gan Francis Thackeray hefyd o Amgueddfa'r Transvaal. Nodir fod Kromdraai B yn dyddio'n ôl i o leiaf 1.95 miliwn o flynyddoedd CP.

Darganfu Mary Leakey orfant (mandibl) a rhan o benglog Paranthropus boisei ar 17 Gorffennaf, 1959, ar safle o'r enw 'Gwely  FLK 1' yng Ngheunant Olduvai yn Tansanïa (sbesimen OH 5). Ar y diwrnod hwnnw roedd Mary'n gweithio ar ei phen ei hun, gan fod Louis Leakey yn sâl yn y gwersyll. Rhuthrodd Leakey yn ôl i'r gwersyll pan glywodd y newyddion! Penderfynwyd peidio a chloddio ymhellach tan i ffotograffydd gyrraedd i dynnu lluniau.

Yn ei nodiadau cofnododd Louis yr enw Titanohomo mirabilis, am y tro cyntaf, gyda'r enw a ddewisiodd yn cyfleu agweddau dynol yr esgyrn a welodd. Cyfeiriodd Louis a Mary ato fel "y Bachgen Annwyl" ("Dear Boy").

Ataliwyd cloddio pellach ar 7 Awst pan gafwyd hyd i offer-llaw Oldowan (cyfnod yr offer-llaw hynaf a ganfuwyd), ac esgyrn anifeiliaid.

Cyhoeddwyd gwybodaeth am y ffosil yn Nature, dyddiedig 15 Awst 1959, ond o ganlyniad i streic y argraffwyr ni ryddhawyd yr wybodaeth tan Medi. Ynddo gosododd Louis y ffosil yn nheulu'r Australopithecinae gan greu genws newydd ar ei gyfer, sef Zinjanthropus, rhywogaethau boisei. Mae "Zinj" yn air Arabeg hynafol sy'n golygu 'arfordir Dwyrain Affrica' ac mae "boisei" yn cyfeirio at Charles Watson Boise, noddwr anthropolegol y Leakeys. Seiliodd Louis ei ddosbarthiad ar ugain o wahaniaethau rhwng Paranthropus a'r Australopithecus.

Anghydfod ynghylch y tacsonomeg[golygu | golygu cod]

Cladogram o esblygiad hominin cynnar.

Mae'r anthropolegydd Richard Dawkins yn amau a yw'r ffosiliau hyn, a ffosiliau eraill a ddarganfuwyd mewn mannau eraill, yn haeddu cael eu dosbarthu i rywogaethau ar wahân, unigol. Mae'n amau'r creaduriaid canlynol: Australopithecus (neu Paranthropus) robustus, Australopithecus (neu Paranthropus neu Zinjanthropus) boisei, a Australopithecus (neu Paranthropus) aethiopicus.[2][3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dawkins, Richard (2004). The Ancestor's Tale: A Pilgrimage To the Dawn of Life. London: Weidenfeld & Nicolson. t. 77. ISBN 0-297-82503-8.
  2. Pilbeam, D.R (1988). "Hominid evolution". In Harrison, G.A., Tanner, J.M., Pilbeam, D.R., & Baker, P.T. (gol.). Human Biology: An introduction to human evolution, variation, growth, and adaptability. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. tt. 104–143. ISBN 0-19-854144-9.CS1 maint: uses editors parameter (link) Also ISBN 0-19-854143-0 (paperback)
  3. Wood, B.A. (1994). "Evolution of australopithecines". In Steve Jones, Robert Martin & David Pilbeam (gol.). The Cambridge Encyclopedia of Human Evolution. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. tt. 231–240. ISBN 0-521-32370-3.CS1 maint: uses editors parameter (link) Also ISBN 0-521-46786-1 (clawr papur)