Australopithecus
Australopithecus Amrediad amseryddol: 4–2 Miliwn o fl. CP Pliosen hwyr–Pliosen cynnar | |
---|---|
![]() | |
Australopithecus africanus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Australopithecus |
Teiprywogaeth | |
†Australopithecus africanus Dart, 1925 | |
Rhywogaeth | |
†A. africanus |
Genws o hominidau a esblygodd yn nwyrain Affrica tua 4 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw Australopithecus ac a ddaeth i ben tua 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw o ddwy filiwn o flynyddoedd, ymddangosodd sawl rhywogaeth gan gynnwys: Australopithecus afarensis, A. africanus, A. anamensis, A. bahrelghazali, A. deyiremeda (argymhelliad yn unig), A. garhi, ac A. sediba..
Ystyr y gair, a fathwyd yn 1925 gan yr anthropolegydd Raymond A. Dart yw "Epa Deheuol" (Lladin: australis - Deheuol; Groeg: πίθηκος pithekos - Epa).
Chwaraeodd rhywogaethau o Australopithecus le pwysig yn esblygiad bodau dynol; yn wir, o'r Australopithecus y datblygodd y genws Homo, oddeutu 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Rhain oedd yr hominidau cyntaf lle gwelir ynddynt y gennyn hwnnw sy'n galluogi niwronau hir a chryf i dyfu o fewn yr ymennydd, sef yr SRGAP2.[1] Felly, trodd yr australopith yn Homo (e.e. Homo habilis) tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl ac yna'n bobl modern (H. sapiens sapiens).[2]
- A.afarensis.jpg
Adluniad o Australopithecus afarensis, un o'r genws Australopithecus
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Reardon, Sara (2012), "The Humanity Switch", New Scientist (AU/NZ), 12 May 2012 No. 2864, tt. 10–11. ISSN 1032-1233
- ↑ Toth, Nicholas and Schick, Kathy (2005). "African Origins" in The Human Past: World Prehistory and the Development of Human Societies (Golygydd: Chris Scarre). Llundain: Thames and Hudson. Tud. 60. ISBN 0-500-28531-4