Australopithecus africanus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Australopithèque Cerveau Double.jpg, Mrs Ples Face.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolffosil (tacson) Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAustralopithecus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Australopithecus africanus
Amrediad amseryddol: Plïosen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primatiaid
Is-urdd: Haplorhini
Teulu: Hominidae
Llwyth: Hominini
Genws: Australopithecus
Rhywogaeth: africanus

Aelod o'r genws Australopithecus (o'r is-lwyth Australopithecine) a fu'n byw ar y Ddaear ac sydd bellach wedi'i ddifodi yw Australopithecus africanus. Dyma'r hominin cyntaf i esblygu o'r epa ac mae'n perthyn yn agos iawn i'r Australopithecus afarensis. Fe'i dosbarthwyd i'r tacson hwn yn 924. Yn ddiweddar, yn dilyn ymchwil gan Paleoanthropolegwyr ac archaeolegwyr dyddiwyd y ffosiliau i rhwng 3.3 a 2.1 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), h.y. yn ystod yr epoc Plïosen hwyr a chychwyn y Pleistosen.

Cred nifer o baleoanthropolegwyr fod A. africanus yn perthyn yn uniongyrchol i fodau dynol modern.[1] Dim ond mewn pedwar lleoliad yn ne Affrica y cafwyd hyd i esgyrn yr A. africanus, ac mae'r darganfyddiadau hyn i gyd yn awgrymu ei fod yn rhywogaeth tal a main. Y lleoliadau hyn yw: Taung (1924), Sterkfontein (1935), Makapansgat (1948) ac Ogof Gladysvale (1992).[2]

Ffosiliau enwog[golygu | golygu cod y dudalen]

Y plentyn Taung[golygu | golygu cod y dudalen]

Cast o benglog y plentyn Taung.

Canfyddwyd y ffosil hwn yn 1924 gan yr Athro Raymond Dart mewn chwarel galch yn Taung ger Kimberley yn Ne Affrica.[3][4] Y ffosil mwyaf nodedig oedd y penglog hwn a oedd yn gyfuniad o nodweddion epa a dyn. Roedd hi'n amlwg o siap yr esgyrn fod y rhywogaeth yma'n teithio ar ddwy goes. Fe'i bedyddiwyd gan Dart yn Australopithecus africanus ("epa de Affrica");[2] Rhoddwyd iddo'r llysenw "Y Plentyn Taung".

Dyma'r tro cyntaf i'r gair 'epa' (-pithecus) gael ei gysylltu gyda hominin mewn astudiaeth (a chyhoeddiad) gwyddonol, pwysig. Roedd hyn, felly, yn ddatganiad fod bod dynol wedi tarddu o epa. Oherwydd rhagfarn yr anthropolegydd Seisnig Syr Arthur Keith, fodd bynnag, a gredodd mai epa ydoedd ac mai yn Ewrop y byddai'r "ddolen goll" yn cael ei darganfod, byddai 30 mlynedd wedi'i dreulio cyn i wyddoniaeth dderbyn mai'r Athro Raymond Dart oedd yn gywir.

Mrs. Ples[golygu | golygu cod y dudalen]

Penglog "Mrs. Ples", Australopithecus africanus; Amgueddfa Transvaal, Pretoria.

Cytunai'r Paleoanthropolegydd Robert Broom gyda Dart, fod y Plentyn Taung yn un o hynafiaid bod dynol. Gweithiai Broom o Amgueddfa Transvaal, Pretoria yn Ne Affrica.[5] Yn 1936, yng nghrobil ogofâu Sterkfontein cafwyd hyd i'r oedolyn cyntaf o'r is-lwyth australopithecine, darganfyddiad a oedd yn cadarnhau honiad Broom, i raddau helaeth. Amcangyfrifodd Broom fod gwactod ymennydd yr oedolyn hwn yn 485 cc (canfuwyd y penglog gan G. W. Barlow) a galwyd yr esgyrn hyn yn Plesianthropus transvaalensis ("Bron-yn-ddynol, o Dransvaal"). Yn 1947, darganfuwyd esgyrn eraill hynod o debyg, gerllaw, esgyrn benyw yn ei chanol oed, a bedyddiwyd hithau hefyd yn Plesianthropus transvaalensis[6]. Llysenw'r esgyrn hyn oedd "Mrs. Ples", er fod y penglog, yn y 2010au wedi'i gadarnhau i fod yn benglog dyn ifanc.

Yn ddiweddarach cadarnhawyd mai Australopithecus africanus oedd y ddau ddarganfyddiad, a newidiwyd yr enwau. Maint gwactod penglog Mrs Ples hithau yw 485 cc, a sylweddolwyd fod y gallu i gerdded ar ddwy goes wedi datblygu cyn i'r ymennydd ddatblygu. Anghytunai Athro Raymond Dart gyda hyn gan fynnu nad oedd y fath beth yn bosib.[7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Human Evolution by The Smithsonian Institution's Human Origins Program". si.edu.
  2. 2.0 2.1 "Australopithecus africanus". archaeologyinfo.com.
  3. "Raymond Dart and our African origins". uchicago.edu.
  4. "Biographies: Raymond Dart". talkorigins.org.
  5. "Primate Origins" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-02-27. Cyrchwyd 2016-07-16.
  6. K. Kris Hirst. "John T. Robinson". About.com Education. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-20. Cyrchwyd 2016-07-16.
  7. Endocranial Capacity of Early Hominids, Charles A. Lockwood, William H. Kimbel. Science 1 Ionawr 1999: Cyfrol 283 rh. 5398 t. 9