Epa

Oddi ar Wicipedia
Epaod
Hominoidea
Tsimpansî
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorrhini
Uwchdeulu: Hominoidea
Gray, 1825
Teiprywogaeth
Homo sapiens
Linnaeus, 1758
Teulu

Proconsulidae
Afropithecidae
Hylobatidae
Hominidae

Primat mawr lled-unionsyth o'r Hen Fyd sydd â breichiau hirion a brest lydan ond sydd heb gynffon na bochgoden yw'r epa (enw Lladin: Hominoidea). Mae ei symudiad rhydd yn wahanol iawn i lawer brimatiaid eraill, yn enwedig yng nghymal yr ysgwydd. Ceir dwy gainc o'r uwchdeulu Hominoidea: y gibon, neu'r 'epa lleiaf'; a'r hominid, sef yr 'epa mawr'. Mae'n anifail gwaed cynnes gyda ffwr ar ei groen. Yr epa mwyaf yw'r gorila cyffredin.

Llinach esblygiad gyda'r is-deulu Homininae wedi'i amlygu. Uwch y blwch melyn, mae'r uwchdeulu hwn: Hominoidea. Oddi tano gwelir y ddau lwyth Hominini a Gorillini. Rhanwyd gydag amser i ddau genws: Homo a Pan. Nid yw'r islwythi wedi'u nodi ar y diagram.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]