Richard Dawkins

Oddi ar Wicipedia
Richard Dawkins
Geni Richard Dawkins
(1941-03-26) 26 Mawrth 1941 (82 oed)
Nairobi, Cenia
Cenedligrwydd Baner Prydain Fawr Prydeinig
Pynciau Etholeg a bioleg esblygiadol
Priod Lalla Ward

Etholegydd, biolegydd esblygiadol a llenor gwyddoniaeth boblogaidd Brydeinig yw Clinton Richard Dawkins, FRS, FRSL (ganwyd 26 Mawrth 1941 yn Nairobi, Cenia). Ef oedd enillydd cyntaf Cadair Charles Simonyi am Ddealltwriaeth Wyddonol y Cyhoedd ym Mhrifysgol Rhydychen, mae hefyd yn gymrawd athrawol o Goleg Newydd, Rhydychen.[1][2]

Daeth Dawkins yn amlwg gyda chyhoeddiad ei lyfr The Selfish Gene ym 1976, gwaith a boblogeiddiodd y safbwynt genyn-ganolog o esblygiad a chyflwynodd y term meme. Ym 1982, gwnaeth cyfraniad blaenllaw i fioleg esblygiadol gyda'r theori, a gyflwynwyd yn ei lyfr The Extended Phenotype, nad yw effeithiau ffenoteipol yn gyfyngedig i gorff organeb, ond gallent ymestyn yn bell i'r amgylchedd, yn cynnwys cyrff organebau eraill.

Yn ogystal â'i waith biolegol, adnabyddir Dawkins am ei farnau ar anffyddiaeth, esblygiad, creadaeth, dyluniad deallus, a chrefydd; beirniad amlwg o greadaeth a dyluniad deallus ydyw. Yn ei lyfr 1986 The Blind Watchmaker, dadleuodd yn erbyn cyfatebiaeth yr oriadurwr, dadl dros fodolaeth creawdwr goruwchnaturiol sy'n seiliedig ar gymhlethdod organebau byw, ac yn lle'r cysyniad hwn disgrifiodd brosesau esblygiadol yn gyfatebol i oriadurwr dall. Ers hynny mae Dawkins wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gwyddonol poblogaidd, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio, gan amlaf yn trafod y pynciau a nodir uchod.

Mae Dawkins yn anffyddiwr,[3][4][5] rhydd-feddyliwr, dyneiddiwr seciwlar, sgeptig, rhesymolwr gwyddonol,[6] a chefnogwr i'r mudiad Brights.[7] Fe'i disgrifiwyd weithiau yn y cyfryngau fel "Rottweiler Darwin",[8] yn gyfatebol i'r biolegydd o Sais T. H. Huxley, a adnabyddir fel "Bulldog Darwin" am ei gefnogaeth i ddetholiad naturiol. Yn ei lyfr 2006 The God Delusion, dadleuodd Dawkins ei bod bron yn sicr nad yw creawdwr goruwchnaturiol yn bodoli ac felly mae ffydd grefyddol yn cyfrif fel rhithdyb.[9] Llyfr mwyaf poblogaidd Dawkins yw The God Delusion; mae'r fersiwn Saesneg wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o gopïau ac wedi'i gyfieithu i 31 o ieithoedd eraill.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) The Simonyi Professorship Home Page. Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  2. (Saesneg) The Third Culture: Richard Dawkins. Edge.org. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  3. (Saesneg) Smith, Alexandra (27 Tachwedd, 2006). Dawkins campaigns to keep God out of classroom. The Guardian. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  4. (Saesneg) Chittenden, Maurice; Waite, Roger (23 Rhagfyr, 2007). Dawkins to preach atheism to US. The Sunday Times. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  5. (Saesneg) Persuad, Raj (20 Mawrth, 2003). Holy visions elude scientists. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  6. (Saesneg) Why I am a secular humanist. Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  7. Hitchens, Christopher (2007). God Is Not Great: How Religion Poisons Everything. Twelve Books, tud. 5. ISBN 0-446-57980-7
  8. (Saesneg) Mohler, R. Albert (9 Medi, 2005). "Darwin's Rottweiler" – Richard Dawkins Speaks His Mind. AlbertMohler.com. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.
  9. Dawkins, Richard (2006). The God Delusion. Transworld Publishers, tud. 5. ISBN 0-5930-5548-9
  10. (Saesneg) Richard Dawkins – Science and the New Atheism. Richard Dawkins at Point of Inquiry. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweithiau dethol

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: dyluniad deallus o'r Saesneg "intelligent design". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.