The God Delusion

Oddi ar Wicipedia
The God Delusion
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurRichard Dawkins Edit this on Wikidata
CyhoeddwrBantam Press, Q4201293, Qanun Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2 Hydref 2006 Edit this on Wikidata
Genregwyddoniaeth, athroniaeth, crefydd Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganThe Ancestor's Tale Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Greatest Show on Earth: The Evidence for Evolution Edit this on Wikidata
Prif bwnccriticism of religion, anffyddiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr The God Delusion
Richard Dawkins

Llyfr ffeithiol gan y biolegydd esblygiadol Richard Dawkins yw The God Delusion, a fu'n 'werthwr gorau' yn 2006.[1][2] Mae Dawkins yn athro cymrawd Coleg Newydd, Rhydychen, a deilydd cyntaf Cadair Charles Simonyi am Ddealltwriaeth Cyhoeddus o Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Yn The God Delusion, mae Dawkins yn dadlau ei fod bron yn sicr nad oes creawdwr goruwchnaturiol yn bodoli, ac fod credu mewn duw personol yn rhithdyb. Mae'n llawn cydymdeimlad â sylw Robert Pirsig yn Lila: An Inquiry into Morals, "pan mae un person yn dioddef o rhithdyb gelwir hyn yn ynfydrwydd. Pan mae nifer o bobl yn dioddef o rithdyb caiff ei alw'n grefydd."[3][4]

Hyd at fis Tachwedd 2007, gwerthodd y fersiwn Saesneg o The God Delusion dros 1.5 miliwn copi ac mae wedi cael ei gyfieithu i 31 o ieithoedd eraill.[5] Rhestrwyd y gyfrol yn ail ymysg gwerthwyr gorau Amazon.com] ym mis Tachwedd 2006.[6][7] Cyrhaeddodd y bedwaredd safle ar restr gwerthwyr gorau y New York Times yn mis Rhagyr 2006 wedi treulio naw wythnos ar y rhestr.[8] Arhosodd ar y rhestr am 51 wythnos hyd 30 Medi 2007.[9] Atynnodd sylwebaeth eang ac ysgrifennwyd llyfrau mewn ymateb iddo.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Dawkins wedi dadlau yn erbyn pob eglurhad creadaethol o fywyd yn ei lyfrau cynharach ar esblygiad. Thema The Blind Watchmaker, a gyhoeddwyd ym 1986, yw y gall esblygiad egluro'r dylunio sy'n ymddangosiadol mewn natur. Yn The God Delusion, mae'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar ystod ehangach o ddadleuon a'u defnyddio o blaid ac yn erbyn bodolaeth Duw (neu dduwiau).

Roedd Dawkins wedi hir ysu am ysgrifennu llyfr yn beirniadu crefydd yn agored, ond roedd ei gyhoeddwyr wedi ei gynghori i beidio. Erbyn 2006, roedd ei gyheddwyr wedi cynhesu tuag at y syniad. Mae Dawkins wedi priodoli'r rheswm dros y newid meddwl i "bedair mlynedd o Bush".[10] Erbyn hynny, roedd nifer o awduron gan gynnwys Sam Harris a Christopher Hitchens, a oedd ynghyd â Dawkins wedi cael eu labelu fel "The Unholy Trinity" gan Robert Weitzel, esioes wedi ysgrifennu llyfrau'n beirniadu crefydd yn agored.[11] Llwyddodd y llyfrau hyn i gyrraedd rhestrau'r gwethwyr gorau, gan ysgogi diwylliant o ysgrifennu crefyddol mewn ymateb.[12] Yn ôl gwefan Amazon.co.uk, arweiniodd y llyfrau at gynnydd o 50% yn eu gwerthiant o lyfrau crefyddol ac ysbrydoleg (gan gynnwys llyfrau gwrth-grefyddol megis The God Delusion a God is Not Great: How Religion Poisons Everything) a cynnydd o 120% yng ngwerthiant y Beibl.[13]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn cynnwys deg pennod. Mae'r cwpl cyntaf yn adeiladu'r achos ei fod bron yn sicr nad oes Duw, tra bod y gweddill yn trafod crefydd a moesoldeb. Cyflwynodd Dawkins y llyfr i'w hen ffrind, Douglas Adams,[14] mae Dawkins yn dyfynnu Adams o Hitchhiker's Guide to the Galaxy: "Isn't it enough to see that a garden is beautiful without having to believe that there are fairies at the bottom of it too?".

Ysgrifennai Dawkins fod The God Delusion yn cynnwys pedwar o negeseuon sy'n codi'r ymwybyddiaeth:

  1. Gall anffyddwyr fod yn hapus, yn gytwys, yn foesol, ac wedi'u cyflawni yn ddeallus.
  2. Mae detholiad naturiol a theoriau erail tebyg yn uwchraddol i "Hypothesis Duw"
  3. Ni ddylai plant gael eu labalu gyda chrefydd gan eu rhieni. Dylid osgo termau megis "plentyn Catholig" neu "plentyn Mwslemaidd".
  4. Dylai anffyddwyr fod yn fach, nid diffyniadol, gan fod anffyddiaeth yn dystiolaeth o feddwl iac, annibynnol.[4]

Hypothesis Duw[golygu | golygu cod]

Gan fod nifer o syniadau theistiaidd yn ymwneud â natur Duw(iau), mae Dawkins yn diffinio'r cysyniad o Dduw mae eisiau ymdrin â yn gynnar yn y llyfr. Mae'n creu'r term "crefydd Einsteiniaidd", gan gyfeirio at ddefnydd Einstein o "Dduw", fel metaffor ar gyfer natur neu ryfeddodau'r bydysawd.[15] Mae'n gwahaniaethu rhwng y "crefydd Einsteiniaidd" hwn a'r syniad theistiaidd cyffredinol o Dduw fel creawdwr bydysawd a ddylid gael ei addoli.[16] Daw hyn yn thema pwysig yn y llyfr, a cyfeirio ato fel Hypothesis Duw.[17] Mae'n haeru fod y syniad hyn o Dduw yn hypothesis cymwys, sy'n cael effeithiau yn y bydysawd materol, ond fel unrhyw hypothesis gall ei brofi a'i wyrdroi.[18]

Mae Dawkins yn gwneud arolwg byr o'r prif ddedlaeuon athronyddol o blaid bodolaeth Duw. O'r holl brofion athronyddol mae'n trafod, mae'n dewis rhoi mwy o ystyriaeth i'r Dadl dros ddynlio. Mae Dawkins yn casglu y gall esblygiad drwy ddetholiad naturiol egluo'r dylunio sy'n ymddangosiadol mewn natur.[4]

Ysgrifennai mai un o sialensau mwyaf i ddeall dyn yw sut mae'r dyluni cymhleth, annhebygol yn dod i fodoli yn y bydysawd, ac mae'n cynnig fod dau esboniad cystadleuol:

  1. Theori sy'n cynnwys dylunydd, hynny yw bod cymhleth i roi cyfrif ar y cymhlethdod a welwn.
  2. Theori sy'n egluro sut y gall rhywbeth mwy cymhleth godi o darddiad ac egwyddorion syml.

Yn syml mae ei ddadl, yn yr Ultimate Boeing 747 gambit,[19] yn honi fod y theori cyntaf yn gwrthbrofi ei hun, ac ma'i ail theori yw'r ffordd ymlaen.[20]

Ar ddiwedd pennod 4, Why there almost certainly is no God, mae Dawkins yn crynhoi ei ddadl gan ddweud, "The temptation [to attribute the appearance of a design to actual design itself] is a false one, because the designer hypothesis immediately raises the larger problem of who designed the designer. The whole problem we started out with was the problem of explaining statistical improbability. It is obviously no solution to postulate something even more improbable."[21]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  The Simonyi Professorship Home Page. The University of Oxford.
  2.  The Third Culture: Richard Dawkins. Edge.org.
  3. Cyfieithiad: "When one person suffers from a delusion it is called insanity. When many people suffer from a delusion it is called religion."
  4. 4.0 4.1 4.2 Richard Dawkins (2006). The God Delusion. Boston: Houghton Mifflin. ISBN 0618680004 tud=406. URL
  5.  Richard Dawkins - Science and the New Atheism. Richard Dawkins at Point of Inquiry (8 Rhagfyr 2007).
  6.  Amazon.com book page - search for sales rank for current position.
  7.  Jamie Doward (2006-10-29). Atheists top book charts by deconstructing God. The Observer.
  8.  Hardcover Nonfiction - New York Times (2006-12-03).
  9.  The God Delusion One-Year Countdown. RichardDawkins.net.
  10.  Richard Dawkins. Richard Dawkins explains his latest book. RichardDawkins.net.
  11. Robert Weitzel. Hitchens, Dawkins, Harris: The Unholy Trinity... Thank God.. Atlantic Free Press. URL
  12.  The Fleas Are Multiplying!. RichardDawkins.net.
  13.  David Smith. Believe it or not: the sceptics beat God in bestseller battle. The Observer.
  14. “Douglas, I miss you. You are my cleverest, funniest, most open-minded, wittiest, tallest and possibly only convert. I hope this book might have made you laugh - though not as much as you made me.” (The God Delusion, tud. 117)
  15.  James Randerson (13 Mai 2008). Childish superstition: Einstein's letter makes view of religion relatively clear. The Guardian. "In the letter, he states: "The word god is for me nothing more than the expression and product of human weaknesses, the Bible a collection of honourable, but still primitive legends which are nevertheless pretty childish. No interpretation no matter how subtle can (for me) change this.""
  16. The God Delusion, tud 13
  17. The God Delusion, tud 31
  18. The God Delusion, tud 50.
  19. The God Delusion, tud 114
  20. Dyma ddetholiad o'r ddadl yn seiliadig ar adolygion Dan Dennett a PZ Myers.
  21. The God Delusion, tud 158