Seciwlariaeth
Gwedd
| Enghraifft o: | math o farn bydeang |
|---|---|
| Math | barn y byd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06r8b |
Cyfundrefn neu athrawiaeth athronyddol a moesegol sy'n credu mewn trefnu bywyd heb gyfeiriad at gred mewn Duw a chrefydd yn gyffredinol yw seciwlariaeth. Credir i'r gair ei hun gael ei fathu gan G. J. Holyoake (1817-1906) ym 1851. Mae'n perthyn yn agos i ddyneiddiaeth.
Mae seciwlariaeth felly yn credu y dylid gwahanu'r seciwlar a'r crefyddol yn llwyr, ac yn gwrthod lle i eglwysi a chyfundrefnau crefyddol eraill mewn bywyd cyhoeddus ac yn enwedig yn y wladwriaeth a'r llywodraeth.
Un adwaith i dwf dylanwad seciwlariaeth ym mywyd y Gorllewin oedd y Syllabus Errorum a gyhoeddwyd gan y Pab Pïws IX ym 1864.