Seciwlariaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Seciwlar)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolathroniaeth wleidyddol, ideoleg wleidyddol, mudiad athronyddol Edit this on Wikidata
Mathbarn y byd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfundrefn neu athrawiaeth athronyddol a moesegol sy'n credu mewn trefnu bywyd heb gyfeiriad at gred mewn Duw a chrefydd yn gyffredinol yw seciwlariaeth. Credir i'r gair ei hun gael ei fathu gan G. J. Holyoake (1817-1906) ym 1851. Mae'n perthyn yn agos i ddyneiddiaeth.

Mae seciwlariaeth felly yn credu y dylid gwahanu'r seciwlar a'r crefyddol yn llwyr, ac yn gwrthod lle i eglwysi a chyfundrefnau crefyddol eraill mewn bywyd cyhoeddus ac yn enwedig yn y wladwriaeth a'r llywodraeth.

Un adwaith i dwf dylanwad seciwlariaeth ym mywyd y Gorllewin oedd y Syllabus Errorum a gyhoeddwyd gan y Pab Pïws IX ym 1864.

Philosophy template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.