Homininae

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Homininae
Amrediad amseryddol: 8–0 Miliwn o fl. CP
Gorila Gorllewinol
(Gorilla gorilla)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primatau
Inffra-urdd: Simiiformes
Uwchdeulu: Hominoidea
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Homininae
John Edward Gray, 1825
Genera

Gorila
Pan
Homo
ac eraill yn nhestun yr erthygl

Isdeulu'r epaod mawr yw Homininae, sy'n cynnwys y llwythi Hominini a Gorillini. Gyda'i gilydd maent yn cynnwys bodau dynol a nifer o ddynolion diflanedig, y tsimpansî, y bonobo a'r gorilaod. Mae'r isdeulu hwn hefyd yn cynnwys pob epa mawr a ddatblygodd wedi i'r is-deulu o orangwtangiaid (neu ‘hen wŷr y coed’) sef y Ponginae hollti o linell yr epaod.

Mae gan y cladogram Homininae dair prif gangen, sy'n arwain at: gorilaod, dynolion a tsimpansîaid. Gwnaed hynny drwy esblygu dros amser drwy lwyth yr Hominini a'r islwythi Hominina a Panina, (gweler y siart isod). Ceir sawl rhywogaeth byw o tsimpansîaid a gorilaod ond dim ond un rhywogaeth byw o ddynolion, sef y bod dynol. Darganfuwyd olion o ddynolion diflanedig o deulu'r Homo gan gynnwys Homo floresiensis a Homo denisova, prin 12,000 o flynyddoedd yn ôl (CP). Disgrifir organebau yn y dosbarth hwn yn epaod Affrica (sy'n hollol wahanol i'r epaod mawr Hominidae a'r epaod dynaidd Hominini).

Llinach esblygiad gyda'r is-deulu Homininae wedi'i amlygu. Oddi tano gwelir y ddau lwyth Hominini a Gorillini. Rhanwyd gydag amser i ddau genws: Homo a Pan. Nid yw'r islwythi wedi'u nodi ar y siart.

Dosbarthiad tacsonomegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Homininae[1][2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Haaramo, Mikko (2005-01-14). "Hominoidea". Mikko's Phylogeny Archive.
  2. Haaramo, Mikko (2007-11-10). "Hominidae". Mikko's Phylogeny Archive.
  3. "Praeanthropus garhi Asfaw 1999 (ape)". Paleobiology Database. Fossilworks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-21. Cyrchwyd 2015-10-23.