Homo sapiens idaltu
Homo sapiens idaltu Amrediad amser: Pleistosen (Hen Oes y Cerrig Isaf), 0.16 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Amgueddfa Genedlaethol Addis Ababa | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Phylum: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Genus: | Homo |
Rhywogaeth: | H. sapiens |
Isrywogaeth: | H. s. idaltu White et al., 2003 |
Enw Trinomial | |
Homo sapiens idaltu White et al., 2003 |
Isrywogaeth darfodedig o Homo sapiens yw Homo sapiens idaltu a fu byw 160,000 o flynyddoedd yn ôl yn Affrica.[1] Daw'r gair o'r iaith Saho-Afar ac sy'n golygu'r "hynaf" neu "gyntaf anedig".[1]
Darganfyddiad
[golygu | golygu cod]Darganfyddwyd gweddillion corff H. s. idaltu yn Herto Bouri ger safle archaeolegol Awash Ganol yn Nhriongl Afar yn Ethiopia yn 1997 gan Tim D. White, ac a wnaed yn gyhoeddus yn 2003.[1] Saif Herto Bouri mewn rhan o Ethiopia sydd dan lwch folcanig. Dyddiwyd y gweddilion hyn rhwng 154,000 a 160,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i dri penglog mewn cyflwr da ac mae'r gorau ohonynt yn perthyn i ddyn ifanc (BOU-VP-16/1) gyda maint ymenyddol o 1450 cm3 (88 modf ciwb). Oedolyn ifanc oedd bia'r ail benglog ac mae'r trydydd yn perthyn i blentyn chwech oed.[1]
Morffoleg
[golygu | golygu cod]Mae morffoleg y ffosiliau hyn yn wahanol i ffurfiau o H. sapiens, a ddaeth wedyn ee esgyrn y Cro-Magnon a ddarganfuwyd yn Ewrop.[1] Er gwaethaf rhai nodweddion hynafol iawn, credir fod y penglogau hyn yn cynrychioli hynafiaid uniongyrchol dyn modern, sef Homo sapiens sapiens a ddatblygodd ychydig wedi'r cyfnod hwn - yn ôl y cysyniad mwyaf poblogaidd am darddiad dyn, sef "Allan-o-Affrica".
Yn 2005 cyhoeddwyd canlyniad profion dyddio potasiwm-argon ar greigiau folcanig safle arall yn Ethiopia, sef Omo, sy'n 195,000 o flynyddoedd yn ôl ac felly'n hŷn na ffosiliau idaltu.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 White, Tim D.; Asfaw, B.; DeGusta, D.; Gilbert, H.; Richards, G. D.; Suwa, G.; Howell, F. C. (2003), "Pleistocene Homo sapiens from Middle Awash, Ethiopia", Nature 423 (6491): 742–747, Bibcode 2003Natur.423..742W, doi:10.1038/nature01669, PMID 12802332
- ↑ McDougall, I.; Brown, F. H.; Fleagle, J. G. (2005), "Stratigraphic placement and age of modern humans from Kibish, Ethiopia", Nature 433 (7027): 733–736, Bibcode 2005Natur.433..733M, doi:10.1038/nature03258, PMID 15716951