Homo floresiensis

Oddi ar Wicipedia
Homo floresiensis
Amrediad amseryddol: 94–13 Ka
Penglog
Model-gopi o benglog Homo floresiensis
Dosbarthiad gwyddonol (ceir anghytundeb)
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamalia
Urdd: Deudroedolion
Primates
Teulu: Hominidae
Llwyth: Hominini
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. floresiensis
Enw deuenwol
Homo floresiensis
Brown et al., 2004
Flores yn Indonesia, mewn coch

Rhywogaeth o hominin sydd wedi darfod amdani yw Homo floresiensis ("Dyn Flores"; llysenw: "yr hobit" a "Flo"); credir fod y rhywogaeth hon o fewn y genws Homo. Yn 2003 darganfuwyd esgyrn naw unigolyn; credir y byddai'r oedolion yn 3.5 troedfedd (1.1 metr) o daldra ar ynys Flores yn Indonesia. Un benglog cyfan a gafwyd, a adnabyddir fel "LB1".[1][2] Ers hynny ymchwiliwyd yn fanwl i'r gweddillion hyn i geisio penderfynu a ydynt yn rhywogaeth sydd ar wahân i fodau dynol modern.

Mae gan yr hominin hwn gorff ac ymennydd bychan iawn a chredir y bu iddynt oroesi hyd at 12,000 o flynyddoedd CP.[3] Mae hyn yn eu gwneud y rhywogaeth o fodau dynol 'non-H.' i oroesi hiraf, gan oroesi ymhell ar ôl i'r Neanderthal (H. neanderthalensis) beidio a bodoli, sef rhwng tua 39,000 a 41,000 CP.[4]

Wrth ochr y gweddillion hyn roedd offer carreg a ellir eu dyddio i rhwng 94,000 a 13,000 cyn y presennol. Cred ambell ysgolor y gallai hanes yr H. floresiensis fod yn rhan o gof y genedl, yn gysylltiedig gyda chwedloniaeth am fath o dylwyth teg lleol ar yr ynys a alwyd yn 'ebu gogo'.[5]

Cymharu penglogau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brown et al. 2004
  2. Morwood, Brown et al. 2005
  3. Morwood, Soejono et al. 2004
  4. "BBC News - New dates rewrite Neanderthal story". BBC News.
  5. Gregory Forth, Hominids, hairy hominoids and the science of humanity Archifwyd 2013-09-21 yn y Peiriant Wayback., Anthropology Today, Cyfr. 21 Rhif 3 (Mehefin 2005), tt. 13-17; John D. Hawks, Stalking the wild ebu gogo (24 Mehefin 2005).