Dyn Neanderthal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dyn Neanderthal
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. neanderthalensis
Enw deuenwol
Homo neanderthalensis
King, 1864
Cyfystyron

Homo sapiens neanderthalensis

Roedd y dyn Neanderthal (Homo neanderthalensis) yn rhywogaeth o'r genws Homo oedd yn byw yn Ewrop a rhannau o orllewin Asia. Ymddangosodd yr olion proto-Neanderthalaidd cyntaf yn Ewrop mor gynnar â 350,000 o flynyddoedd yn ôl. Erbyn 130,000 o flynyddoedd yn ôl roedd nodweddion Neanderthalaidd cyflawn wedi ymddangos. Roedd y rhywogaeth wedi darfod o'r tir rhyw 24,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae ymchwil genetig a wnaethpwyd yn 2010 yn awgrymu fod bodau dynol a dyn Neanderthal yn rhyng-bridio rhwng 80,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Dwyrain canol. O ganlyniad mae gan fodau dynol Ewrasiaidd rhwng 1% a 4% mwy o DNA Neanderthalaidd nag Affricanwyr Is-Sahara.[1]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://news.bbc.co.uk/2/hi/science/nature/8660940.stm A Draft Sequence of the Neandertal Genome


Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.