Lleu Llaw Gyffes
Mae Lleu Llaw Gyffes yn gymeriad sy'n ymddangos yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, sef Mabinogi Math fab Mathonwy. Cydnabyddir Lleu i fod yr ymgnawdoliad Cymreig o'r duw Gwyddelig Lugh a'r hen dduw Celtaidd Lugus.
Geni'r efeilliaid Lleu a Dylan[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl y chwedl, ni allai Math fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn. Wrth chwilio am forwyn cynghorodd ei nai Gwydion iddo ddewis Arianrhod, chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei hudlath ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, ac bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn y cyfamser gwnaeth Math fedyddio'r bachgen mawr penfelyn gyda'r enw Dylan. Cyn gynted ag y bedyddiwyd ef fe gyrchodd y môr ac "fe gafodd natur y môr". Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don. Wedyn clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Cyrchodd y dref gyda'r plentyn i'r lle y gwyddai fod gwraig a allai feithrin y bachgen. Tyfodd y mab yn hynod o gyflym. Ymhen yr ail flwyddyn roedd yn gallu cyrchu'r llys ar ei ben ei hun, felly o hyn ymlaen fe'i magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.
Lleu a thynghedau Arianrhod[golygu | golygu cod y dudalen]
Aeth Gwydion gyda'r bachgen a chyrchu Caer Arianrhod i gyflwyno'r mab i'w fam. Ond digiodd Arianrhod a dweud "O ŵr, beth sydd arnat ti, fy nghywilyddio i, ac erlid fy nghywilydd a'i gadw cyhyd â hyn?" Tyngodd Arianrhod dynged ar ei mab "na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gennyf i."
Magwyd Lleu gan Wydion yn Ninas Dinlle (ger Caernarfon). Wrth Abermenai, ar draeth y Foryd, tyfai llawer o hesg. Trwy hud adeiladodd Gwydion long ohonynt. Gwnaeth hefyd ledr hardd, a’i dorri’n barod i wneud esgidiau. Yna, newidiodd ei wedd ei hun a’r bachgen trwy swyn a rhoi dillad newydd iddynt fel yr ymddangosent fel dau grydd. Hwyliodd y ddau yn y llong hyd tua chaer Arianrhod ac angori wrth y gaer. Bu’r ddau yn ddiwyd yn gwneud esgidiau nes i rai o forynion Arianrhod eu gweld a sylwi pa mor hardd oedd y lledr. Gwnaeth Gwydion y pâr yn rhy fawr a dychwelwyd hwy, a gofyn iddo wneud pâr arall. Gwnaeth yr ail bâr yn fwriadol rhy fach. Dychwelwyd y rhain eto. "Rhaid i’r dywysoges ddod yma i gael mesur ei throed," meddai Gwydion wrth y morynion.
Trannoeth daeth Arianrhod ar fwrdd y llong i gael mesur ei throed ac nid adnabu Gwydion na’i mab. Tra mesurai Gwydion ei thraed disgynnodd dryw bach ar hwylbren y llong. Taflodd y bachgen ato a tharo'r dryw yn ei goes. Chwarddodd Arianrhod ac meddai, "Duw a ŵyr, â llaw gelfydd y trawodd yr un golau ef" a chyda hynny enillodd y mab ei enw: Lleu Llaw Gyffes.
Digiodd Arianrhod a thyngu tynged arall arno, sef "..na chaiff arfau fyth hyd oni wisgaf i hwy amdano." Ond unwaith eto trwy gyfrwystra llwyddodd Gwydion i dwyllo Arianrhod a chael ei chwaer i wisgo arfau am Leu. Yna tyngodd Arianrhod dynged arall arno, sef "na chaiff fyth wraig o'r genedl sydd ar y ddaear hon yr awr hon."
Wedi clywed hyn aeth Gwydion at Fath, mab Mathonwy, am help a chymerodd Gwydion a Math flodau’r derw, banadl ac erwain a thrwy hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau. Galwyd hi Blodeuwedd, ac yn fuan priodwyd hi a Lleu ac aeth y ddau i fyw i Fur y Castell ger Harlech.
Lleu a Blodeuwedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ond ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared o Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano.
"Paid â phoeni," meddai Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd. Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon, yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."
Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn roedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan Afon Cynfal (ger Ffestiniog heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.
Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.
Gyda chymorth hwch daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd englynion wrtho, sef Englynion Gwydion, nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.
"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Flodeuwedd. Daliwyd hi wrth Llyn y Morynion a dywedodd Gwydion wrthi, "Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan Afon Cynfal a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ifans, Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gomer 1980) ISBN 1-85902-260-X
- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)