Erwain
| Erwain | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Rosales |
| Teulu: | Rosaceae |
| Genws: | Filipendula |
| Rhywogaeth: | F. ulmaria |
| Enw deuenwol | |
| Filipendula ulmaria (L.) Maxim. | |
Planhigyn blodeuol lluosflwydd o deulu'r Rosaceae ac a dyfir mewn dolydd llaith yw'r erwain (Lladin: Filipendula ulmaria; Saesneg: meadowsweet). Mae'n blanhigyn brodorol yn y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac fe'i ceir hefyd yng ngogledd America ar ôl iddo gael ei gyflwyno yno a dechrau tyfu yn y gwyllt. Mae enwau Cymraeg eraill arno'n cynnwys chwys Arthur, brenhines y weirglodd, blodau'r mêl, llysiau'r Forwyn, barf y bwch a meddlys.
Mae'n blodeuo ym mis Gorffennaf.
Chwedlau
[golygu | golygu cod]Mae gan y planhigyn le arbennig ym mytholeg Cymru fel un o'r blodau a ddefnyddir gan Math fab Mathonwy a Gwydion i greu Blodeuwedd:
Ac yna y cymerasant hwy blodeu y deri, a blodeu y banadl, a blodau yr erwein, ac o'r rhei hynny, aswyno yr un forwyn decaf a theledicaf a welas dyn eiroed.[1]
Rhinweddau meddyginiaethol
[golygu | golygu cod]Dywedir ei fod yn dda at yr annwyd, diffyg traul, gwrthweithio gwenwyn, ffliw, anhwylder ar yr arennau a'r bledren, llid yr isgroen (cellulitis), diffyg caws a nerfusrwydd. Dywedir hefyd fo ganddo'r gallu i ladd poen, fel asparin, heb effeithio leinin y stumog. Fel llawer o lysiau rhinweddol, y cwbl sydd angen ei wneud ydy berwi'r blodau am ddeg munud; dylid wedyn yfed tair cwpanaid y dydd am bythefnos - cyn brecwast.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pedeir Keinc y Mabinogi, gol. Ifor Williams, (Caerdydd), tud. 83.
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.