Llid yr isgroen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llid yr isgroen

Mae llid yr isgroen yn haint bacteriol sy'n effeithio ar haenau mewnol y croen[1].

Symptomau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llid yr isgroen yn effeithio'n benodol ar yr isgroen (dermis) a'r braster isgroenol (subcutaneous). Mae arwyddion a symptomau yn cynnwys ardal o gochni sy'n cynyddu mewn maint dros ychydig ddyddiau. Yn gyffredinol, nid yw ffiniau'r ardal goch yn llym, gall bod chwyddo ar y croen. Er bod y cochni'n aml yn troi'n wyn pan fydd pwysau'n cael eu rhoi arno, nid yw hyn bob amser yn wir. Fel arfer mae ardal yr haint yn boenus. Weithiau bydd y cyflwr yn effeithio ar y pibellau lymff[2]. Gall y claf gael twymyn a theimlo'n flinedig.

Achos a diagnosis[golygu | golygu cod y dudalen]

Y coesau a'r wyneb sy'n cael eu heffeithio gan amlaf[3], er y gall llid yr isgroen effeithio ar unrhyw ran o'r corff. Fel rheol bydd yn effeithio'r goes yn dilyn toriad yn y croen. Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys gordewdra, chwyddo yn y coesau, a henaint. Mewn achosion lle mae'r wyneb yn cael ei effeithio, ni fydd toriad croen, fel arfer, yn achos y llid. Y bacteria sy'n gyfrifol am y clefyd yn y rhan fwyaf o achosion yw streptococci a Staphylococcus aureus. Yn wahanol i lid yr isgroen mae clefyd tebyg, y fflamwydden dân (erysipelas), yn haint bacteriol sy'n effeithio ar haenau mwy arwynebol y croen, gydag ardal o gochni gydag ymylon wedi'u diffinio'n dda, ac yn fwy tebyg o achosi'r dwymyn. Fel arfer, mae diagnosis yn seiliedig ar y symptomau, yn anaml y bydd modd casglu meithriniad celloedd. Cyn gwneud diagnosis, dylid gwirio nad yw heintiau mwy difrifol megis haint ar yr asgwrn neu necrosis y ffasgau yn bresennol.

Triniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel rheol bydd triniaeth drwy wrthfiotigau[4] a gymerir trwy'r gen, megis cephalexin, amocsisilin, neu cloxacillin. Yn y rheiny sydd ag alergedd i benisilin, gellir defnyddio erythromycin neu clindamycin. Pan fo Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin (MRSA) yn bryder, efallai y bydd doxycycline neu trimethoprim / sulfamethoxazole yn cael ei argymell. Bydd pryder os bydd presenoldeb crawn neu hanes o heintiau MRSA blaenorol. Gallai codi'r ardal heintiedig fod yn fuddiol, weithiau bydd poenliniarydd yn cael ei ragnodi.

Bydd tua 95% o bobl yn gwella ar ôl tuag wythnos o driniaeth.

Cyffredinoled[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd 21.2 miliwn o bobl y byd llid yr isgroen yn 2015. Yn yr Unol Daleithiau bydd 2 allan o bob mil o'r boblogaeth yn cael y llid ar ran isaf y goes. Yn 2015 achosodd llid yr isgroen 16,900 o farwolaethau trwy'r byd. Yn y Deyrnas Unedig, mae llid yr isgroen yn gyfrifol am 1.6% arhosiad ysbyty.

Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Galw Iechyd Cymru - Llid yr Isgroen adalwyd 28 Chwefror 2018
  2. BBC Cymru Fyw Micro-lawdriniaeth yn cynnig gobaith i gleifion adalwyd 28 Chwefror 2018
  3. Healthline - Cellulitis adalwyd 28 Chwefror 2018
  4. Boots (Fferyllydd) Cellulitis adalwyd 28 Chwefror 2018