Dryw

Oddi ar Wicipedia
Dryw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Troglodytidae
Genws: Troglodytes
Rhywogaeth: T. troglodytes
Enw deuenwol
Troglodytes troglodytes
(Linnaeus, 1758)
Melyn golau: Ymwelydd haf sy'n magu
Melyn tywyll: Ymwelydd haf
Oren: Ymwelydd gaeaf nad yw'n magu
Troglodytes troglodytes
Cuculus canorus canorus + Troglodytes troglodytes
Gweler hefyd Dryw (gwahaniaethu).

Mae'r Dryw (Troglodytes troglodytes ) yn aelod o deulu'r Troglodytidae, y drywod. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal â Gogledd America. Y Dryw yw'r unig aelod o'r teulu sydd i'w gael y tu allan i America.

Nid yw'r Dryw yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de. Mae'n aderyn bychan, 9-10.5 cm o hyd, gyda phlu browngoch a barrau du. Mae'r gynffon fer yn cael ei dal ar i fyny fel rheol, ac mae llinell welw uwchben y llygad.

Ffeithiau difyr[golygu | golygu cod]

Dyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[1]:

Fideo o'r dryw
  • Ei brif fwyd yw pryfed o wahanol fathau, ac mae'n medru mynd i mewn i gilfachau mewn creigiau i'w hela. O'r arfer hwn y daw'r enw Lladin "Troglodytes", sef "preswyliwr ogof".
  • Mae'r Dryw yn aderyn cyffredin iawn yng Nghymru ac mae'n bresennol mewn pob math o gynefin, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd.
  • Mae'n aderyn brown ofnadwy o fach a chryf.
  • Mae ganddo goesau hir.
  • Maen nhw'n pwyso 7-12g.
  • Weithiau maen nhw'n bwyta hadau a caws.
  • Maen nhw yw gweld drwy'r flwyddyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwaith prosiect Menter Môn, Mehefin-Gorffennaf 2019

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Dryw gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.